Fflach ddigwyddiad Cymru’n Gweithio yn dod i Sir Benfro

0
289
Some of the Working Wales team at a previous pop-up event

Mae Cymru’n Gweithio (a ddarperir gan Gyrfa Cymru) yn cynnal fflach ddigwyddiad yn Abergwaun a Hwlffordd.

Bydd ein staff yn y lleoliadau a ganlyn ar y dyddiadau a nodir rhwng 9am a 4.30pm i helpu pobl sy’n cerdded heibio gydag ymholiadau’n ymwneud â chyflogaeth ac i gynnig cymorth a chyfarwyddyd iddynt:

  • Hwlffordd: Canolfan Siopa Riverside, dydd Mercher 30 Mawrth
  • Abergwaun: Marchnad Neuadd y Dref, dydd Iau 31 Mawrth

Meddai Wendy Williams, rheolwr datblygu gweithredol Sir Benfro yn Cymru’n Gweithio: “Mae ein tîm yn awyddus i ddychwelyd i gefnogi pobl yn ein cymunedau drwy’r fflach ddigwyddiadau hyn, sydd wedi’u hatal oherwydd covid.

“Efallai bod llawer o bobl wedi bwriadu gwneud apwyntiad ond heb wneud hynny eto. Mae ein fflach ddigwyddiadau yn golygu bod ein harbenigwyr yn weladwy, yn hygyrch ac ar gael i bobl mewn amgylchedd sy’n gyfarwydd iddynt, gan ei gwneud yn haws i bobl gymryd y cam cyntaf.

Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim ac nid oes angen archebu lle.

Ychwanegodd Ms Williams: “Mae ein staff wedi’u hyfforddi’n llawn a gallant ateb ymholiadau yn y fan a’r lle, neu gallant wneud apwyntiad i chi yn eich canolfan leol ar amser sy’n gyfleus i chi.

“Galwch heibio i ddweud helô a byddan nhw’n gwneud y gweddill.”

Gallwch ddarganfod ble arall yng Nghymru mae’r digwyddiadau’n cael eu cynnal yma.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle