Urddwyd Bethan Nicholas-Thomas yn Faer Ieuenctid newydd gan Gastell-nedd Port Talbot mewn seremoni a gynhaliwyd ar-lein.
Cynhaliwyd y seremoni flynyddol ddydd Iau 3 Chwefror ac roedd uwch-swyddogion y cyngor ac arweinwyr cymunedol allweddol yn bresennol, gan gynnwys y Cynghorydd Ted Latham (Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot), Karen Jones (Prif Weithredwr Cyngor Castell-nedd Port Talbot) Sally Holland Comisiynydd Plant Cymru), Louise Fleet (Arglwydd Raglaw Gorllewin Morgannwg), Joanna Jenkins (Uchel Siryf Gorllewin Morgannwg).
Yn ei haraith dderbyn, meddai’r cyn-ddisgybl o Ysgol Gymunedol Cwmtawe, “Rwy’n addo gwneud newidiadau effeithiol ac effeithlon i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n effeithio ar ein hardal leol oherwydd bod ein hamser yn brin. Rwy’n bwriadu canolbwyntio’n fwy penodol ar y bobl ifanc y mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio arnynt fwyaf yng Nghastell-nedd Port Talbot.
“Rwy’n addo cynrychioli pobl ifanc Castell-nedd Port Talbot a rhoi cyfleoedd gwell iddynt gael dweud eu dweud fel bod ein syniadau, ein barn, ein canmoliaeth a’n pryderon yn cael eu dilysu a’u clywed. Byddaf yn gweithio gyda’r Cyngor Ieuenctid i brofi bod yr hyn y gallwn ei gyflawni yn ddiderfyn cyhyd â’n bod yn ymdrechu i wella Castell-nedd Port Talbot er lles pawb.”
Mae Bethan yn aelod o Gyngor Ieuenctid Prydain a’r Grŵp Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid sy’n ymgyrchu i wneud newidiadau ar gyfer planed iachach.
Mae swyddi Maer Ieuenctid a Dirprwy Faer Ieuenctid yn cael eu hethol yn flynyddol gan Gyngor Ieuenctid Castell-nedd Port Talbot i sicrhau bod gan bobl ifanc lais a’u bod yn cael dweud eu dweud ar faterion lleol sydd o bwys iddynt.
Meddai’r Cynghorydd John Warman, Maer Castell-nedd Port Talbot, a siaradodd yn y seremoni, “Mae’n parhau i fod mor bwysig ein bod yn clywed barn, syniadau a lleisiau’r holl blant a phobl ifanc ar draws holl waith y cyngor. Mae Castell-nedd Port Talbot yn ymdrechu i sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed a’u bod yn flaenoriaeth yn ein gwaith.
“Rwy’n siŵr y bydd ein Maer Ieuenctid newydd yn parhau â’r gwaith da hwn ac edrychaf ymlaen at weld Bethan yn bresennol mewn digwyddiadau yn y dyfodol lle bo’n bosib.”
Urddwyd y Dirprwy Faer Ieuenctid newydd, Maddie Pritchard, yn y seremoni hefyd.
Siaradodd Maddie, sy’n ddisgybl blwyddyn 11 yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur, am ei hangerdd dros y Gymraeg ac addawodd gefnogi nod Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle