Elusen Colli Golwg yn arwain gweminar ceiswyr gwaith Cymru

0
222

Mae sicrhau swydd yn gallu bod yn anodd ar y gorau, felly ystyriwch am funud yr heriau ychwanegol sy’n gallu codi i’r miloedd o bobl yng Nghymru sydd â diagnosis o golli golwg.

Fodd bynnag, mae cymorth wrth law gan fod un o’r prif elusennau colli golwg, y Gymdeithas Facwlaidd, yn gobeithio codi ymwybyddiaeth o’r rhwystrau hyn mewn gweminar ym mis Mawrth.

Mae’r Gymdeithas yn cefnogi pobl sy’n byw gyda chlefyd macwlaidd, prif achos colli golwg yng Nghymru a’r DU. Bydd yn croesawu siaradwyr gwadd i’r digwyddiad untro fydd yn edrych ar y rhwystrau ymddangosiadol a gwirioneddol i gyflogaeth sy’n wynebu’r rhai sy’n colli golwg. Y siaradwyr fydd Tina Hewitt o JobSense Cymru a’r saethwr dall Nick Thomas sy’n swyddog datblygu gyda Chymdeithas Deillion Gogledd Cymru.

Bydd y ddau’n trafod nifer o bynciau perthnasol i gyflogaeth, yn cynnwys yr anawsterau sy’n gallu codi yn ystod camau gwneud cais am swydd neu gyfweliad, datgelu eich cyflwr o ran colli golwg a manteision gwirfoddoli. Bydd y sesiwn hefyd yn trafod Mynediad i Waith, cynllun y llywodraeth sy’n gallu eich helpu i sicrhau swydd neu i aros mewn gwaith os oes gennych chi anabledd neu gyflwr iechyd corfforol neu iechyd meddwl.

Mae’r weminar yn cael ei chefnogi gan gyllid y Loteri Genedlaethol a bydd yn cael ei chyd-letya gan Reolwyr Rhanbarthol Cymru y

Gymdeithas Facwlaidd, Adele Francis a Marian Williams, a’i harwain gan Colin Daniels, Rheolwr gwasanaeth Oedran Gwaith a Phobl Ifanc y Gymdeithas Facwlaidd, fydd yn rhoi cyfle i’r rhai sy’n bresennol gael atebion i’w cwestiynau mwyaf ar gyflogaeth.

Meddai Colin: “Ar y cyfan mae’n cymryd dwywaith cyn hired i rywun sy’n colli golwg i ddod o hyd i waith. Felly, nid yn unig ei bod hi’n bwysig bod â’r sgiliau cywir i ddod o hyd i swydd, ond mae hi hefyd yn bwysig i ddeall y rhwystrau a sut i’w gorchfygu.

“Gobeithiwn y bydd y weminar yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol a helpu pobl i orchfygu’r llu o heriau y maen nhw’n eu hwynebu wrth chwilio am gyflogaeth.”

Bydd y weminar yn digwydd ar Zoom am 7pm ddydd Mawrth, 1 Mawrth, cyn Wythnos Genedlaethol Gyrfaoedd.  Mae modd cofrestru ar gyfer y sesiwn nawr.

 

Cofrestrwch ar gyfer y weminar ar https://us02web.zoom.us/webinar/register/WN_Is7hxrmfQZ–I4zv1_jGkw

Mae’r Gymdeithas Facwlaidd yn diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol sy’n helpu i wneud gwahaniaeth anhygoel i fywydau pobl.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle