Dywedodd Sioned Williams AS, llefarydd Plaid Cymru dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb:
“Mae’r newyddion am y cyllid ychwanegol i gefnogi pobl gyda chostau byw i’w groesawu. Mae’n arbennig o dda gweld y bydd mwy o arian yn cael ei ddarparu ar gyfer mwy o bobl mewn angen drwy’r Gronfa Cymorth Dewisol a thrwy’r Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf. Mae Plaid Cymru wedi bod yn galw am hyn.
“Fodd bynnag, nid trwy ddull cyffredinol o roi £150 i bob aelwyd ym Mandiau Treth y Cyngor A-D yw’r ffordd orau o sicrhau bod y rhai sydd â’r angen mwyaf, y rhai a fydd yn wynebu’r dewis rhwng gwresogi a bwyta, yn cael y cymorth mwyaf.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle