Taith feic ddeunaw milltir wedi’i chynllunio ar gyfer Apêl Cemo Bronglais

0
270
Pictured are Stuart Hickman (right) and Jon Burr, about to get in some training for the ride

Mae staff yn Afan Outdoor Leisure yn cynllunio taith beicio 18-milltir ym mis Mehefin i godi arian tuag at Apêl Chemo Bronglais – ac maen nhw’n gwahodd unrhyw un sydd eisiau ymuno i gysylltu.

Mae’r daith yn cael ei threfnu gan y cynorthwyydd gwerthu Stuart Hickman a’r mecanydd Jon Burr ac maen nhw eisoes wedi cael mwy na 15 aelod o staff a pherthnasau i ymuno.

Mae’r digwyddiad, a fydd yn addas i ddechreuwyr, yn cychwyn o safle Afan ar Stad Ddiwylliannol Glan yr Afan am 10yb ar ddydd Sul, 12fed o Fehefin ac yn dilyn y llwybr i Gwm

Rheidol ac yn ôl.

Bydd grŵp bach sydd ddim wedi arfer beicio llawer yn mynd am dro 10k ar y diwrnod, felly mae croeso i bobl i gymryd rhan yn hynny.

Dywedodd Stuart, 51, y beiciwr brwd ei hun: “Rydym i gyd yn nabod rhywun sydd wedi’i effeithio gan ganser. Mae Apêl Cemo Bronglais yn elusen leol sydd o fydd i’n cymunedau lleol.

“ Rydym yn ffodus i gael uned ddydd cemotherapi yn lleol i ni. Rydym yn mawr obeithio y bydd y gymuned yn dod at ei gilydd i helpu i gael yr Apêl i’w tharged o £500,000 fel y gallwn gael uned ddydd bwrpasol newydd sy’n addas ar gyfer y dyfodol.”

Rhoddodd Cyfarwyddwr Afan Outdoor Leisure, Andrew Davies £250 i roi hwb i’r dudalen codi arian ac mae mwy na £500 eisoes wedi’i godi tuag ar y targed o £2,500.

Gall pobl a hoffai ymuno sefydlu eu tudalen codi arian eu hunain neu gyfrannu yn https://hyweldda.enthuse.com/pf/afan-outdoor-leisure. Neu, fel arall, gall beicwyr godi ffurflen noddi o’r siop.

Os hoffai unrhyw un gael mwy o fanylion, gellir cysylltu â Stuart ar 07377 976337 neu e-bostio sales@afanability.wales


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle