Cyfleusterau gofal llygaid newydd i helpu i leihau amseroedd aros

0
214
Welsh Government

 Mae’r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan wedi croesawu datblygiad cyfleusterau gofal llygaid newydd a fydd yn cynyddu nifer y cleifion sy’n cael triniaeth gofal llygaid ac yn lleihau amseroedd aros.

Gyda chymorth buddsoddiad gan y cynllun i ariannu adferiad y GIG, mae byrddau iechyd yng Nghymru yn gwneud gwaith arloesol i wella mynediad at ofal llygaid. Er gwaethaf y pwysau parhaus ar y GIG, rhwng mis Tachwedd 2021 a mis Rhagfyr 2021, gostyngodd nifer y cleifion offthalmoleg risg uchaf sy’n aros am apwyntiad claf allanol ychydig dros 2,000.

Er mwyn darparu ar gyfer y nifer cynyddol o gleifion sydd angen gofal llygaid, gweithiodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd i ailystyried sut y darparwyd gofal llygaid i boblogaeth Caerdydd a’r Fro. Mewn 100 diwrnod yn unig, sefydlwyd Canolfan Gofal Llygaid Prifysgol GIG Cymru yng Nghaerdydd i wella mynediad at ofal llygaid a chefnogi’r broses o adfer gwasanaethau i lefelau cyn y pandemig.

Gyda’r galw am wasanaethau gofal llygaid yn tyfu, mae Canolfan Gofal Llygaid Prifysgol GIG Cymru yng Nghaerdydd yn un enghraifft o sut y mae GIG Cymru yn lleihau’r amser aros i bobl sydd ag anghenion gofal llygaid brys neu gymhleth gael eu gweld yn yr ysbyty. Mae’n gwneud hynny drwy gynnal triniaethau gofal llygaid mewn lleoliad gofal sylfaenol.

Mae Canolfan Gofal Llygaid Prifysgol GIG Cymru yn darparu hyfforddiant ychwanegol i uwchsgilio Optometryddion i’w galluogi i weld amrywiaeth ehangach o bobl a fyddai’n draddodiadol wedi gorfod cael eu gweld yn yr ysbyty. Mae’r Ganolfan, ar y cyd â’r Ysgol Optometreg a Gwyddorau’r Golwg ym Mhrifysgol Caerdydd, ar hyn o bryd yn darparu hyfforddiant i naw Optometrydd ennill y cymwysterau uwch mewn dulliau trin Glawcoma. Wrth fynychu’r clinig un diwrnod yr wythnos, mae’r Optometryddion sy’n astudio ar gyfer y cymhwyster yn gweld dros 35 o gleifion yr wythnos mewn lleoliad clinigol wrth iddynt weithio tuag at eu dyfarniad. Yn dilyn llwyddiant yr hyfforddiant, disgwylir i ddeuddeg Optometrydd arall ddechrau hyfforddi i ennill y Dystysgrif Uwch mewn Retina Meddygol ym mis Mawrth. Bydd y myfyrwyr hyn yn gweld dros 50 o gleifion yr wythnos. 

Mae’r gwasanaeth gofal llygaid cynaliadwy hwn wedi caniatáu i fwy o gleifion gael eu trin yn effeithlon, derbyn gofal yn lleol iddynt ac o fewn amserlen na fydd yn eu rhoi mewn perygl o golli eu golwg ymhellach. O fis Medi ymlaen, bydd 2,700 o gleifion eraill yn cael eu gweld yng Nghanolfan Gofal Llygaid Prifysgol GIG Cymru bob blwyddyn.

Yn ogystal, bydd dwy theatr lawfeddygol newydd yn benodol ar gyfer llawdriniaethau cataract yn cael eu cwblhau’r mis hwn ac yn weithredol ym mis Mawrth 2022. Bydd y theatrau newydd hyn yng Nghaerdydd, sydd wedi’u hariannu gan £1 miliwn gan Lywodraeth Cymru, yn cynyddu nifer y llawdriniaethau cataract i 427 y mis, o 60 y mis ar gyfartaledd ar hyn o bryd. Bydd y capasiti cynyddol yn golygu y bydd 227 yn llai o bobl y mis ar restrau aros am ofal llygaid.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle