Pobl arbennig iawn ar y rhestr fer ar gyfer gwobrau cenedlaethol

0
334
Welsh Government

Gwobrau Dewi Sant yw gwobrau cenedlaethol Cymru i anrhydeddu arwyr pob dydd

Heddweision a achubodd menyw 92 oed o dŷ ar dân, cyflwynydd ITV sydd wedi goroesi camdriniaeth yn y cartref ac yn awr yn ymgyrchydd, cyn-gamblwr sydd yn helpu pobl eraill sy’n gaeth i gamblo – mae’r rhain i gyd ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Dewi Sant.

Mae Gwobrau Dewi Sant, a fydd yn dathlu eu nawfed flwyddyn yn 2022, yn cydnabod gorchest eithriadol pobl o bob cwr o Gymru.

Bydd gwobrau eleni yn cael eu rhoi i bobl a chwmnïau mewn naw categori gwahanol, gan gynnwys Dewrder, Ysbryd y Gymuned ac Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg. Bydd Prif Weinidog Cymru yn rhoi ei wobr arbennig.

Wrth gyhoeddi’r teilyngwyr, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

“Mae rhai o’r bobl sydd ar y rhestr fer wedi dangos dewrder a phenderfyniad eithriadol. Mae eraill wedi dangos ysbryd cymunedol anhygoel er gwaetha’r pwysau aruthrol o fyw drwy bandemig y coronafeirws.

“Mae ein teilyngwyr yn bobl syfrdanol ac rydym yn ffodus iawn eu bod yn byw yng Nghymru. Hoffwn longyfarch pawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer a hoffwn ddiolch i bawb a roddodd o’i amser i enwebu rhywun am wobr – yn anffodus mae’n amhosib rhoi pawb ar y rhestr fer.”

Cyhoeddir yr enillwyr mewn seremoni ar 7 Ebrill 2022

Y teilyngwyr yw:

Dewrder

PC Ian Chattun a’r Rhingyll Katy Evans – Plismyn gyda Heddlu Dyfed Powys a achubodd menyw fregus rhag boddi ar lan-môr Aberystwyth

PC Thomas Scourfield a’r Rhingyll Geraint Jenkins – Mentrodd y plismyn hyn eu bywydau i achub bywyd dyn 92 oed mewn tŷ ar dân ym Mhort Talbot.

Aaron Gray

Lleoliad – Prestatyn, Sir Ddinbych

Achubodd tad saith cymydog o dân, cwta funudau cyn i’w tŷ fynd yn wenfflam. Gwelodd Aaron y fflamau ar ôl cael ei ddihuno gan ei fab tair oed am 5am.  Rhuthrodd y cyn-filwr draw a deffro’r ddwy fenyw a’r pump o blant oedd yn y byngalo ym Mhrestatyn. 

Busnes

Gwasanaethau glanhau a diogelwch A&R

Lleoliad – Pen-y-bont ar Ogwr

Dyma fusnes addasodd ei wasanaethau yn ystod y pandemig gan fuddsoddi mewn technoleg newydd a bod y cyntaf yng Nghymru i gynnig gwasanaethau bio-darthu sy’n rhoi amddiffyniad ychwanegol rhag Covid.

Awesome Wales CIC

Lleoliad – Y Barri a’r Bont-faen, Bro Morgannwg

Menter gymdeithasol sy’n cadw siopau di-wastraff yw Awesome Wales, lle mae cwsmeriaid yn cael prynu nwyddau eco-gyfeillgar a moesegol heb unrhyw ddeunydd pacio plastig diangen.

Jordan Lea

Lleoliad – Llandudno, Conwy

Mae Jordan Lea yn ddyn sy’n ysbrydoli.  Dechreuodd gwmni buddiannau cymunedol o’r enw Deal Me Out yn 2020 ar ôl gorfod delio â phroblemau iechyd meddwl difrifol yn sgil bod yn gaeth i gamblo, a’u trechu.

Ysbryd y Gymuned

Carole Anne Dacey

Lleoliad – Penarth, Bro Morgannwg

Ers iddi ymddeol, mae Carole wedi gweithio’n amser llawn gyda rhai o’r bobl fwyaf bregus yng Nghymru, gan gynnwys y digartref, pobl sydd wedi cael eu masnachu, a charcharorion. Mae hi hefyd wedi hyfforddi pobl eraill (gan gynnwys carcharorion) i fod yn wirfoddolwyr.

Ruth Dodsworth

Lleoliad – Caerdydd

Cyflwynydd adnabyddus ar y teledu a gafodd ei chamdrin a’i rheoli’n greulon am bron 20 mlynedd gan ei gŵr.  Mae hi nawr yn ymgyrchu yn erbyn rheolaeth trwy orfodaeth ac yn helpu heddluoedd Cymru i adnabod arwyddion camdriniaeth ddomestig.

Siop Griffiths

Lleoliad – Dyffryn Nantlle, Gwynedd

Menter gymunedol ym Mhen-y-groes, Dyffryn Nantlle, Gwynedd sydd wedi helpu i greu atebion lleol i’r problemau sy’n wynebu Dyffryn Nantlle ac i roi cyfleoedd i bobl ifanc allu aros a llwyddo yn eu cymuned.

Gweithiwr Allweddol

Dr Eilir Hughes

Lleoliad– Nefyn, Gwynedd

Meddyg teulu a sefydlodd yr ymgyrch Awyr Iach Cymru i hyrwyddo pwysigrwydd awyru da, yn enwedig mewn ysgolion, a gwisgo mygydau i leihau’r risg o ledaenu a dal Covid-19.

Michelle Jones a Catherine Cooper – Pennaeth Ysgol a Dirprwy Bennaeth

Lleoliad – Ysgol Gynradd Lansdowne, Caerdydd.

Yn ystod pandemig COVID-19, aeth Michelle a Catherine ati i helpu a chynnig gofal i blant gweithwyr allweddol a phlant sy’n agored i niwed, gan sicrhau eu bod yn gallu mynychu’r ysgol. Gwnaethon nhw hefyd ddarparu bwyd a hanfodion eraill i deuluoedd, a sicrhau eu bod ar gael 24/7 i gynnig cymorth a chyngor i’r gymuned.

Tîm nyrsio anadlol Ysbyty Morgannwg

Lleoliad – Llantrisant, Caerdydd

Chwaraeon y tîm ran bwysig iawn trwy gefnogi a chynghori teuluoedd oedd ag anwyliaid yn yr ysbyty oherwydd Covid. Roedden nhw yno hefyd i gysuro staff yn Uned Feddygol Ddwys yr ysbyty.

Ysgol Esceifiog

Lleoliad – Ynys Môn

Dyma ysgol a roddodd gefnogaeth i deulu yn eu hysgol ar ôl i un o’u plant gael diagnosis angheuol. Gwnaethon nhw sicrhau bod help ar gael i blant eraill y teulu yn yr ysgol yn ogystal â rhoi cefnogaeth i’r disgyblion eraill y gwnaeth salwch eu ffrind effeithio arnyn nhw.

Diwylliant

Berwyn Rowlands

Lleoliad – Caerdydd

Cynhyrchydd ffilm a theledu a ffilmgarwr yw Berwyn a fe yw Cyfarwyddwr Gŵyl Gwobr Iris – Gŵyl Ffilmiau LGBT+ yng Nghaerdydd sy’n cyflwyno’r wobr fwyaf yn y byd ar gyfer ffilmiau byr.

Dr Ami Jones a Glenn Dene

Lleoliad – Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Yn ogystal â gwneud eu gwaith arferol, cyhoeddodd Ami a Glenn gasgliad o ffotograffau Glenn o wardiau ysbytai Cymru mewn llyfr o ffotograffau o’r enw ‘Behind the Mask: the NHS Family and the fight with Covid 19’, gyda sylwebaeth gan Ami.

Jessica Dunrod

Lleoliad – Caerdydd

Awdur ac ieithydd sydd wedi cael effaith aruthrol ar lenyddiaeth Gymraeg. I geisio dod ag amrywiaeth i lenyddiaeth Gymraeg, mae hi wedi cyhoeddi 10 teitl mewn llai na blwyddyn.

Pencampwr yr Amgylchedd

Dr Sarah Beynon – The Bug Farm

Lleoliad – Tyddewi, Sir Benfro

Sefydlodd y Dr Beynon, ffermwr, cadwraethwr ac entomolegydd academaidd, fferm drychfilod yn 2013 ar ei fferm can erw, gan ennill llu o wobrau.  Fel canolfan ymchwil ac addysg, mae’n ddarlun o ddyfodol cynaliadwy o ran bwyd, ffermio a chadwraeth natur.

Grŵp Amgylchedd Adeiledig Carbon Isel (Prifysgol Caerdydd)

Lleoliad – Ysgol Bensaernïaeth Cymru, Prifysgol Caerdydd

Mae’r grŵp wedi helpu’n sylweddol i leihau allyriadau carbon mewn tai tra’n gwella amodau a gostwng biliau ynni.

Melissa Forster a Kristina Pruett

Lleoliad – Pontypridd

Maent wedi dangos y ffordd o ran ailgylchu a thipio anghyfreithlon yn eu hardal. Tyfodd eu hadduned, The Litter Pick Challenge, yn fudiad gweithredu cymunedol gyda chysylltiadau ag ardaloedd eraill o Gymru, y DU a thramor.

Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Dr Sabrina Cohen-Hatton, Yr Athro Rob Honey, Dr Byron Wilkinson a Phil Butler

Lleoliad – Prifysgol Caerdydd

Cynhaliodd tîm bychan o ymchwilwyr ymroddedig ymchwil ar wneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd o argyfwng ar y cyd â Chyngor Cenedlaethol y Prif Swyddogion Tân.

Luca Pagano, Graham Howe, Peter Charlton, John Hughes a Richard Morgan

Lleoliad – Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), Caerfyrddin

Tîm bychan a ddatblygodd system cymorth anadlol jet wedi’i argraffu mewn 3D i helpu’r GIG pan ddechreuodd COVID-19.

Tîm Ymchwil a Chyflenwi Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Lleoliad – Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Cydweithiodd y staff ymchwil i gefnogi timau clinigol i gynnal treialon, gan ganolbwyntio ar dreialon iechyd cyhoeddus brys. Gwnaeth y tîm addasu i amgylchiadau newydd a sicrhau bod ymchwil yn parhau dros gyfnod argyfyngus iawn i fyrddau iechyd.

Chwaraeon

David Smith MBE

Lleoliad – Abertawe

Enillydd medalau aur Ewropeaidd, Byd a Pharalympaidd yn y gamp boccia dros y 14 blynedd diweddar, yn fwyaf diweddar yng Ngemau Paralympaidd Tokyo 2020.

Hannah Mills OBE

Lleoliad – Caerdydd

Enillodd Hannah ei hail fedal aur yng Ngemau Olympaidd Tokyo 2020 i’wh ychwanegu at ei medalau Byd ac Ewropeaidd. Hi yw’r hwylwraig OIympaidd mwyaf llwyddiannus erioed.

Lauren Price

Lleoliad – Ystrad Mynach, Caerffili

Yn 2021, Lauren oedd y fenyw gyntaf o Gymru i ennill medal aur bocsio yn y Gemau Olympaidd. Bydd yn ei ychwanegu at y fedal aur enillodd yng Ngemau’r Gymanwlad 2018 a’i Medal Aur ym Mhencampwriaeth Ewrop

Person ifanc

Benjamin Trewartha

Lleoliad – Pentre’r Eglwys, Rhondda Cynon Taf

Ar ôl gweld pobl oedd yn agos iddo’n cael trawiadau cardiaidd, mae Benjamin wedi mynd ati i roi hyfforddiant cymorth cyntaf i ddisgyblion ysgol allu delio â phobl sy’n cael problemau â’r galon.

Daniel Lewis

Lleoliad – Treharris, Merthyr Tudful

Yn ystod y cyfnod clo, dechreuodd Daniel ymgyrch i lanhau mannau lle roedd sbwriel yn cael ei ollwng yn anghyfreithlon. Drwy godi arian a gweithio gyda busnesau lleol, mae wedi llwyddo i gael gwared ar dros 25 tunnell o wastraff anghyfreithlon ar Gomin Merthyr a Gelligaer.

Makenzy Beard

Lleoliad – Llandeilo Ferwallt, Gŵyr

Dechreuodd y ferch ysgol 14 oed beintio fel hobi yn ystod y cyfnod clo. Mae ei gwaith celf wedi ennill miloedd o gefnogwyr ac wedi mynd yn feiral ar y cyfryngau cymdeithasol. Dewiswyd ei gwaith celf i’w arddangos yn Sioe Haf Artistiaid Ifanc yr Academi Frenhinol yn Llundain yr haf hwn. Mae Makenzy hefyd yn chwarae hoci i Gymru.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle