Mae Plaid Cymru wedi ymateb i’r amseroedd aros diweddaraf yn y Gwasanaeth Iechyd, gan nodi siomedigaeth bod cynllun i ddelio gyda’r ôl-groniad sylweddol ddim i’w disgwyl tan fis Ebrill.
Mae’r ffigyrau aros, sydd wedi’u cyhoeddi heddiw gan Lywodraeth Cymru, yn dangos nad oes un targed wedi’i gyrraedd yn yr un o’r meysydd dan sylw. Mae’r ffigyrau aros ar gyfer diagnosis, therapi, amseroedd aros mewn adrannau damweiniau ac achosion brys ac amseroedd ymateb gan ambiwlansys i gyd yn parhau i fod yn sylweddol o uwch na’r targed.
Ymysg y ffigyrau, nodir bod 683,000 o achosion yn aros ar gyfer llwybr clinigol – y ffigwr mwyaf ers 2011.
Wrth ymateb i’r newyddion na fydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei chynllun i fynd i’r afael ag ôl-groniadau’r Gwasanaeth Iechyd tan fis Ebrill, ac wrth i ffigurau diweddaraf amseroedd aros y GIG gael eu cyhoeddi, dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros iechyd a gofal, Rhun ap Iorwerth AS,
“Mae’r dystiolaeth yn dweud wrthym fod llai o bwysau o’r coronafeirws ar ein GIG, ac eto mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhy araf i ymateb i’r newyddion da hyn. Wrth wynebu tasg mor sensitif o ran amser â chael y GIG yn ôl ar y trywydd iawn, nid oes amser i’w gwastraffu.
“Mae’r pandemig wedi cael effaith enfawr ar allu ein GIG i ddiagnosio a thrin cleifion – mae’r amseroedd aros bellach yn ofnadwy o beth. Ond doedden nhw ddim yn ddigon da cyn y pandemig.
“Dylai Llywodraeth Cymru fod yn barod gyda chynllun adfer nawr, yn union fel y dylen nhw fod wedi cael cynllun ar waith cyn y pandemig. Mae mis Ebrill yn rhy hir i aros am fater mor bwysig. “
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle