Cyngor Sir Ceredigion yn recriwtio Gweithwyr Cymdeithasol dan hyfforddiant

0
245

Rydym yn cynnig cyfle i bobl ennill cyflog a dysgu ar yr un pryd fel Gweithiwr Cymdeithasol dan Hyfforddiant. Sefydlwyd y cynllun er mwyn cynnig llwybr noddedig tuag at fod yn Weithiwr Cymdeithasol. 

Dywedodd Geraint Edwards, y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyngor Sir Ceredigion am Bobl a Threfniadaeth: “Dyma gyfle rhagorol i’r rheiny sydd â phrofiad o ofal cymdeithasol i gymryd y cam nesaf, hyfforddi i fod yn Weithiwr Cymdeithasol a chyfrannu i Dîm Ceredigion.”

Mae’r Gweithwyr Cymdeithasol dan hyfforddiant yn gweithio mewn timau gwaith cymdeithasol ac yn derbyn cyflog tra byddant yn cael eu noddi i gwblhau’r rhaglen radd Gwaith Cymdeithasol gyda’r Brifysgol Agored dros dair blynedd.

Dywedodd y Cynghorydd Ray Quant, aelod o’r Cabinet a chyfrifoldeb am Gwasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethu, Pobl a Threfniadaeth a Gwasanaethau Democrataidd: “Mae’n amser cyffrous iawn i ymuno â’r Cyngor wrth inni fwrw ati i drawsnewid ein dull o ddarparu gofal cymdeithasol. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru yn dilyn hynt ein prosiect trawsnewid newydd ac arloesol. Mae ein Gweithwyr Cymdeithasol dan Hyfforddiant yn aelodau gwerthfawr iawn o’n gweithlu a byddant yn gallu dylanwadu ar ddyfodol gwaith cymdeithasol yng Ngheredigion.”

Mae ein cynllun yn rhoi cyfle i’r hyfforddeion gael gradd broffesiynol a dechrau ar yrfa werth chweil heb fynd i ddyled yn sgil ffïoedd prifysgol.

Dywedodd Aisha Nutting, cyn-weithiwr dan hyfforddiant a gafodd ei chymhwyster yn 2017 ac sydd bellach yn Uwch-weithiwr Cymdeithasol: “Yn ystod fy hyfforddiant cefais gefnogaeth dda gan weithwyr cymdeithasol cymwys a phrofiadol. Bues i’n gweithio gydag amrywiaeth o dimau a phobl ac yn awr mae gennyf swydd yr wyf yn angerddol amdani yn ogystal â gyrfa sicr.”

Cynhelir sesiwn wybodaeth ar-lein ar gyfer y sawl sydd â diddordeb mewn ymgeisio a hynny ar 2 Mawrth. I archebu lle ar y sesiwn wybodaeth ebostiwch dysgu@ceredigion.gov.uk. I gael mwy o wybodaeth, ewch i: https://careers.ceredigion.gov.uk/cy/jobs/req103590cym/


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle