Rhwydwaith gwirfoddoli elusen colli golwg i elwa yn sgil grant loteri o £10,000

0
283
Group Members

Mae’r Gymdeithas Facwlaidd wedi croesawu’r arian, sy’n rhan o raglen Arian i Bawb y Loteri. Bydd yn cefnogi ei gwirfoddolwyr ar draws y wlad drwy ddarparu hyfforddiant a datblygiad i’w helpu yn eu rolau hanfodol. Bydd y grant hefyd yn caniatáu i’r elusen recriwtio gwirfoddolwyr newydd gyda’r nod o gefnogi mwy o bobl sy’n byw gyda cholli golwg.

Clefyd macwlaidd yw’r achos colli golwg mwyaf yng Nghymru gan effeithio ar dros 85,000 o bobl. Gall y clefyd gael effaith andwyol ar fywydau pobl, yn eu gadael yn methu gyrru, darllen neu weld wynebau. Mae llawer o bobl sydd wedi eu heffeithio’n disgrifio colli eu golwg fel profiad tebyg i brofedigaeth. Does dim gwellhad hyd yma ac nid oes modd trin y rhan fwyaf o fathau o’r clefyd. Dirywiad macwlaidd sy’n gysylltiedig â henaint (AMD) yw’r ffurf mwyaf cyffredin ar glefyd macwlaidd ac mae’n effeithio ar dros 600,000 o bobl, fel arfer dros 50 mlwydd oed.

Mae gwirfoddolwyr y Gymdeithas Facwlaidd yn helpu i leihau’r teimladau o ynysu y mae llawer o bobl sy’n byw gyda’r cyflwr yng Nghymru’n eu profi, drwy eu helpu i ailgysylltu â’u cymunedau. Bydd y grant diweddaraf yn helpu mwy o wirfoddolwyr i ddarparu cefnogaeth hanfodol i 750 o bobl sy’n byw ym mhob rhan o’r wlad.

Mae Ian Runsie o Abergele wedi bod yn gwirfoddoli fel cyfeillachwr ers 2020. Cafodd ddiagnosis o retinitis pigmentosa yn 29 mlwydd oed ac ychydig flynyddoedd yn ôl fe ddatblygodd AMD sych.

Mae’n 64 oed bellach, ac meddai: “Maen nhw eisiau rhywun i siarad â nhw ond rydyn ni’n rhannu profiadau hefyd. I mi, mater o fod eisiau helpu oedd o. Mae fy mhrofiad o ymdopi gyda bod yn ddall wedi bod yn hawdd o gymharu gyda phobl eraill. Os ydyn nhw eisiau gwybod sut i ddelio â’r peth rydw i yno i’w cefnogi nhw ac rydyn ni wedi ffurfio cyfeillgarwch dros y misoedd a’r blynyddoedd.

“Mae bod yn gyfeillachwr wedi gwneud gwahaniaeth mawr i mi hefyd, felly dwi’n credu fod pob un ohonom yn elwa o’r gwasanaeth.”

Wrth siarad am y cais llwyddiannus am grant, meddai Maria Storesund, Pennaeth Rhanbarthau’r Gymdeithas Facwlaidd: “Rydym wrth ein bodd i dderbyn yr arian hwn gan raglen Arian i Bawb Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a bydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl sydd â chlefyd macwlaidd.

“Mae ein gwirfoddolwyr yn cynnig cymorth gwerthfawr i bobl sy’n byw gyda cholli golwg ac mae’r gefnogaeth y maen nhw’n ei gynnig yn gwbl hanfodol. Mae’n gysur anhygoel i bobl wybod fod yna bobl eraill sydd wir yn deall eu sefyllfa.

“Gyda mwy a mwy o bobl yn cael diagnosis o glefyd macwlaidd bob dydd, mae ein gwirfoddolwyr yn bwysicach nag erioed. Diolch i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol gall ein gwirfoddolwyr adeiladu ar y gwaith gwych y maen nhw wedi bod yn ei wneud a chefnogi rhagor o bobl sy’n byw gyda’r cyflwr dinistriol hwn.”

I ddysgu sut y gallwch wirfoddoli gyda’r Gymdeithas Facwlaidd ewch i https://www.macularsociety.org/get-involved/volunteer/ ne


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle