Cyffro’r Eisteddfod yng Ngheredigion

0
230
Image: Tregaron sign, the home of the National Eisteddfod of Wales 2022

Mae Dydd Gŵyl Dewi yn gyfle i ddathlu iaith a diwylliant yng Ngheredigion, ac eleni mae yna gyfle arbennig i edrych ymlaen at un o wyliau diwylliannol mwyaf Ewrop a fydd yn ymweld â’r sir ym mis Awst, sef yr Eisteddfod Genedlaethol.

Bydd 2022 yn flwyddyn gyffrous i Geredigion ar ôl gorfod gohirio’r Eisteddfod yn 2020 o ganlyniad i’r pandemig, ac mae Cyngor Sir Ceredigion yn awyddus i sicrhau cyfleoedd a fydd yn ei gwneud yn haws nag erioed i unrhyw un fwynhau iaith a diwylliant y sir.

Dros y misoedd nesaf, bydd y Cyngor yn gweithio’n agos â thîm yr Eisteddfod Genedlaethol i sicrhau gŵyl fywiog, gyda digwyddiadau a gweithgareddau ar gyfer y teulu cyfan. Gan gwmpasu pob agwedd ar gelfyddyd a diwylliant Cymru, mae’r Eisteddfod yn ŵyl gynhwysol a chroesawgar, sy’n denu miloedd o ddysgwyr Cymraeg a rhai nad ydynt yn siarad yr iaith cystal ȃ Chymry Cymraeg bob blwyddyn.

Wrth i Geredigion baratoi ar gyfer rhoi cartref i’r ŵyl bwysig hon yn Nhregaron, rydym am sicrhau ein bod yn cynnig croeso Cymraeg. Hoffem eich atgoffa y gallwch dderbyn gwasanaethau yn Gymraeg wrth gysylltu â’r Cyngor, dros y ffôn, wyneb yn wyneb, drwy e-bost, ar y We ac wrth gwrs drwy’r cyfryngau cymdeithasol. Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni gyd, ac rydym am apelio ar drigolion Ceredigion i ddefnyddio’r gwasanaeth Cymraeg sydd ar gael iddynt.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn: “Mae Cyngor Sir Ceredigion yn falch i gefnogi’r trefniadau wrth roi’r Eisteddfod Genedlaethol ar waith yn Nhregaron yn ystod wythnos cyntaf mis Awst eleni. Mae’r Eisteddfod yn un o gonglfeini’r iaith Gymraeg, yn cynnig cyfleoedd pwysig i bobl siarad yr iaith ac i atgyfnerthu eu hyder ynddi. Mae hefyd yn cynnig cyfle i ddenu pobl di-Gymraeg at yr iaith ac i bobl sy’n ei dysgu i’w hymarfer. Fel sir sydd yn gyforiog mewn traddodiad a diwylliant Cymreig, dyma’r amser delfrydol i ddefnyddio’r Gymraeg yn gyhoeddus ac adlewyrchu bwrlwm iaith fyw Ceredigion. Rydym am eich annog i ddefnyddio’r gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael i chi drwy Gyngor Sir Ceredigion.”

A ydych chi am ymweld â’r Eisteddfod eleni? Beth am gymryd golwg ar y fideo ar y dudalen hon sy’n egluro’r hyn a fydd yn aros amdanoch ar y maes ym mis Awst eleni? http://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/eisteddfod-genedlaethol-ceredigion-2022/


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle