Mae rhoddion yn talu am gofroddion i deuluoedd sy’n galaru

0
280
Gweler Honey Owens, Prentis Profiad Cleifion gyda rhai o'r eitemau

Diolch i roddion lleol mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi gallu prynu eitemau cofrodd i helpu teuluoedd sy’n galaru ar ôl i’w hanwyliaid farw mewn ysbyty.

Dywedodd Emma Haycocks, Rheolwr Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt i Gleifion yn Hywel Dda (PALS), fod y fenter newydd yn mynd i fod o fudd i deuluoedd sydd wedi colli anwyliaid, yn enwedig yn ystod pandemig COVID-19.

“Mae teuluoedd cleifion ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn cael cynnig cofroddion o’u hanwyliaid fel printiau dwylo a darnau o wallt mewn bagiau cofiant, ac rydym yn gallu darparu bagiau galaru canfas er mwyn dychwelyd eiddo eu hanwyliaid,” dywedodd Emma. “Bydd yr eitemau hyn yn arbennig o bwysig os nad oedd teuluoedd yn gallu bod gyda’u hanwyliaid pan fu iddynt farw.

“Bydd y fenter yn cael ei chynnig yn ein pedair prif ysbyty ac yn ein hysbytai cymunedol.

“Mae’r bagiau canfas yn llawer mwy personol na bagiau eiddo sydd wedi’u defnyddio yn y gorffennol. Y gobaith yw dychwelyd eitemau personol mewn modd parchus a gofalgar er mwyn gwneud y foment tamaid bach yn haws.”

Gweler Honey Owens, Prentis Profiad Cleifion gyda rhai o’r eitemau.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle