Mae Tir Coed yn lansio cynllun hyfforddi sgiliau tir chwe blynedd

0
309

Mae Tir Coed, elusen dysgu a llesiant awyr agored sy’n gweithredu yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, wedi lansio prosiect chwe blynedd uchelgeisiol i ymgysylltu ag 17,000 o bobl ddifreintiedig mewn ystod o sgiliau ar y tir, o sgiliau tyfu bwyd sylfaenol i grefftau treftadaeth traddodiadol, ar ôl derbyn cyllid gan Lywodraeth y DU i’w gefnogi.

Mae prosiect AnTir yr elusen wedi derbyn £170,261 gan Gronfa Adfywio Cymunedol y DU ar gyfer cam ddichonoldeb cychwynnol y cynllun, sy’n cael ei gyflawni yng Ngheredigion cyn bod y prosiect yn ehangu i gwmpasu Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Phowys.

Bydd y prosiect yn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau cymdeithasol, economaidd a llesiant mewn ardaloedd gwledig gan liniaru effaith newid hinsawdd fyd-eang ar lefel lleol.

Mae’r enw AnTir yn deillio o’r geiriau Cymraeg ‘Antur’ (Adventure) a ‘Tir’ (Land).

Datblygwyd y prosiect allan o adnabyddiaeth gynyddol o’r effaith gorfforol a meddyliol y mae materion lleol yn ei chael ar gymunedau gwledig ac unigolion. Mae’r materion hyn yn cynnwys: anghydraddoldeb economaidd, diffyg cyfleoedd gwaith, trafnidiaeth a seilwaith cymorth ddiffygiol a datgysylltiad cynyddol â’r byd natur, ynghyd â phroblemau byd-eang megis newid yn yr hinsawdd, diflaniad rhywogaethau, elwa ar adnoddau a dibyniaeth ar gadwyni cyflenwi rhyngwladol.

Mae’r prosiect AnTir yn anelu at fynd i’r afael â nifer o’r materion hyn drwy gynnig hyfforddiant ymarferol mewn rheoli tir yn gynaliadwy a thechnegau tyfu bwyd er mwyn rhoi hwb i iechyd corfforol a meddyliol pobl trwy eu hailgysylltu â’r byd natur, gan adnewyddu sgiliau treftadaeth sy’n diflannu, gwella hunangynhaliaeth a diogelwch bwyd, yn ogystal â gwella cynefinoedd naturiol a bioamrywiaeth mewn ardaloedd gwledig o Ganolbarth a Gorllewin Cymru.

Cafodd y prosiect ei greu yn dilyn ymgynghoriaeth eang â rheolwyr tir, ffermwyr a chadwraethwyr i nodi prinderau sgiliau rheoli tir cyfredol, ac ar gyfer y dyfodol, ar draws y pedair sir ac ardaloedd tebyg, yn enwedig o ran crefftau treftadaeth a thraddodiadol y gall eu diflaniad gael effaith negyddol hirdymor ar dirweddau sydd wedi ffurfio ardaloedd gwledig yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru dros genhedloedd.

Dywedodd Teresa Walters, Prif Weithredwr dros dro Tir Coed: “Rydyn ni’n falch iawn o fod wedi derbyn swm mor sylweddol o arian gan Gronfa Adnewyddu Cymunedol y DU i gefnogi cam ddichonoldeb y prosiect AnTir.

“Mae derbyn grant o’r maint hwn yn dangos yr effaith go iawn y mae’r anghydraddoldebau cymdeithasol ac economaidd yn ei chael ar gymunedau gwledig ac yn cydnabod y gallai nodau Tir Coed gynnig help sylweddol wrth fynd i’r afael â’r problemau hyn ar gyfer y dyfodol.

“Trwy hyfforddi pobl ddifreintiedig yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru i ddiwallu anghenion rheoli tir y dyfodol mewn ffordd gynaliadwy ac amgylcheddol-gyfeillgar, gallwn leihau anghydraddoldebau iechyd, cyfoeth, hyfforddiant a mynediad at dir a mannau gwyrdd i bawb trwy wella cynefinoedd naturiol a bioamrywiaeth yn yr ardaloedd lle’r ydym ni’n byw, gweithio a chwarae ynddynt.

“Mae gan Tir Coed dros 21 mlynedd o brofiad mewn gwella coetiroedd er budd cyhoeddus. Maent yn gwneud hynny wrth ymgysylltu â phobl trwy wirfoddoli, hyfforddi a gweithgareddau pwrpasol er mwyn gwella llesiant ynghyd â datblygu sgiliau a chyfleodd am waith mewn ardaloedd gwledig.

“Rydyn ni’n hynod ddiolchgar i Gronfa Adnewyddu Cymunedol y DU am gefnogi cam ddichonoldeb cychwynnol y prosiect AnTir ac rydym yn edrych ymlaen at fynd i’r afael ag anghenion ardaloedd gwledig Canolbarth a Gorllewin Cymru nawr ac yn y dyfodol.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle