Trefniadau ar gyfer Erthyliad Meddygol Cynnar yn y Cartref

0
172
Welsh Assembly Government Logo
Welsh Government News

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithaso

Heddiw, rwy’n cyhoeddi bod y trefniadau dros dro a gyflwynwyd yn ystod y pandemig COVID-19, a oedd yn galluogi menywod a merched i gymryd y ddwy bilsen ar gyfer Erthyliad Meddygol Cynnar yn eu cartrefi eu hunain, a hynny hyd nes iddynt gyrraedd 9 wythnos a 6 diwrnod o gyfnod beichiogrwydd, yn cael eu gwneud yn barhaol yng Nghymru. Bydd menywod a merched yn gallu gwneud hyn ar ôl iddynt gael ymgynghoriad dros y ffôn neu ar-lein â chlinigydd, ac ni fydd raid iddynt fynd i’r ysbyty neu i glinig yn gyntaf.

Mae hwn yn gam blaengar sy’n dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi menywod.

Rwy’n fodlon bod y trefniadau’n ddiogel. Maent yn hynod fanteisiol i fenywod a merched sy’n dymuno cael mynediad at wasanaethau erthylu, gydag amseroedd aros byrrach yn eu galluogi i gael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt yn gyflymach nag a fyddai wedi bod yn bosibl o dan y trefniadau blaenorol. Mae cryn fanteision i’r GIG hefyd, gyda llai o angen am apwyntiadau.

Cafodd ymgynghoriad ei gynnal gan Lywodraeth Cymru ar y trefniadau dros dro rhwng mis Rhagfyr 2020 a mis Chwefror 2021. Rwyf wedi ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad hwnnw yn ofalus ynghyd â gwybodaeth a ddaeth i law wedi hynny am ba mor ddiogel ydyw gwasanaethau erthylu o dan y trefniadau hyn cyn gwneud y penderfyniad hwn.

Mae canllawiau newydd wedi cael eu datblygu gan glinigwyr sy’n gweithio gyda Choleg Brenhinol yr Obstetryddion a’r Gynaecolegwyr, y Gyfadran Gofal Iechyd Rhywiol ac Atgenhedlol a Chymdeithas Darparwyr Gofal Erthyliad Prydain i alluogi’r GIG yng Nghymru i weithredu’r newid mor effeithiol â phosibl. Mae’r canllawiau yn cynnwys camau i sicrhau nad yw menywod sy’n defnyddio’r gwasanaeth yn cael eu gorfodi, ac na fydd unrhyw un yn camfanteisio arnynt, yn unol â phrotocolau diogelu yng Nghymru. Mae’r canllawiau hefyd yn pwysleisio bod angen rhoi cyngor a chymorth i fenywod ar ddulliau atal cenhedlu ac iechyd atgenhedlol.

Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn falch o wneud hynny.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle