eola yn lansio opsiwn Cymraeg mewn pryd ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi

0
456

Llundain 01/03/2022 – Mae eola, cwmni newydd o Lundain, wrth ei fodd i gyhoeddi lansiad ei nwyddau archebu ar gyfer cwsmeriaid, yn gyfan gwbl yn Gymraeg ar Ddydd Gŵyl Dewi. 

Mae eola yn cynnig system archebu a rheoli gyflawn ar gyfer darparwyr profiad ledled y DU a thramor. Yn ddiweddar, lansiodd y system, a oedd wedi’i chynnig yn Saesneg i ddechrau, gyfres newydd o offer archebu ar gyfer cwsmeriaid sydd â’r gallu i arddangos yn gyfan gwbl yn Gymraeg. 

Nod eola yw rhoi statws cyfartal i’r Gymraeg ar y llwyfan drwy ymgorffori mwy o alluoedd Cymraeg, yn unol â Deddfwriaeth Cymru, i’w gwneud yn haws i sefydliadau gydymffurfio â safonau iaith Gymraeg y Llywodraeth. 

Ychwanegwyd y nodwedd unigryw i sicrhau bod nifer o fusnesau partner eola yng Nghymru yn gallu darparu cyfathrebiadau cyfartal i gwsmeriaid tra’u bod nhw’n archebu profiadau arbennig. Wrth symud ymlaen, bydd eola yn parhau i ychwanegu mwy o ieithoedd yn y dyfodol fel y gall hyd yn oed mwy o bobl gymryd rhan yn y gweithgareddau a gynigir ar draws y byd.

Dywedodd Callum Hemsley, Prif Swyddog Gweithredol a Chyd-sylfaenydd eola,Rydym wrth ein bodd yn gallu cynnig ein platfform yn Gymraeg i gwsmeriaid ei ddefnyddio. Rydym yn gweithio gyda llawer o fusnesau o Gymru ac rydyn ni bob amser wedi ein syfrdanu gan y cyfoeth o weithgareddau a phrofiadau anhygoel sydd gan Gymru i’w cynnig. Mae cael offer archebu yn iaith y genedl ei hun yn rhywbeth yr ydym yn hynod o falch ohono. Mae hwn yn gam hollbwysig i sicrhau bod cwsmeriaid ym mhobman yn gallu archebu heb wynebu rhwystrau iaith. Ac mae ei lansio ar Ddydd Gŵyl Dewi yn teimlo hyd yn oed yn fwy arbennig.

Gwybodaeth am eola

Gwybodaeth am eola

Mae eola yn blatfform archebu a rheoli cyflawn ar gyfer darparwyr profiad. Rydym yn galluogi busnesau i awtomeiddio eu prosesau – o gymryd archebion i reoli adnoddau – gan gynyddu eu refeniw yn sylweddol. https://business.eola.co/


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle