Hysbysiad i’r Wasg: Cynnal rali o flaen y Senedd i ddangos undod â’r Wcráin

0
292
Plaid Cymru Leader Adam Price AM

Ddydd Llun, 20 Chwefror am 6yh cynhelir rali ar risiau’r Senedd ym Mae Caerdydd i ddangos undod â phobl yr Wcráin ac i alw am roi terfyn ar y rhyfel.

Bydd siaradwyr y rali yn cynnwys Svitlana Phillips, o Lais Wcráin Cymru; Adam Price AS, arweinydd Plaid Cymru; a Mick Antoniw AS, Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru, sydd o dras Wcreiniad.

Dychwelodd Adam Price a Mick Antoniw yn ddiweddar o ddirprwyaeth i Wcráin, lle trafodwyd y sefyllfa sy’n wynebu pobl y wlad. 

Daw’r rali ar adeg pan fo grymoedd Rwsia yn ceisio meddiannu Wcráin.

Wrth siarad cyn y rali dywedodd Svitlana Phillips o Lais Yr Wcráin Cymru:

‘Hoffwn annog pobl i ddod i’r rali heno yn y Senedd. Ein prif bryder, ledled y byd, yw ein bod yn sefyll gyda’n gilydd yn erbyn yr hyn y mae Putin yn ei wneud yn Wcráin.

‘Gellir gweld y gwrthsafiad i’r hyn y mae Putin yn ei wneud ar strydoedd Wcráin, ond rhaid i Putin hefyd weld ein bod i gyd yn tynnu at ei gilydd ledled y byd yn ei erbyn.

‘Yn y dyddiau diwethaf, rwyf wedi derbyn galwadau wrth deulu sy’n dweud bod tanciau ar y ffin yn symud drwodd – mae ofn enfawr ar bobl. Nid yw pobl yn chwilio am esboniad bellach, maent am weld diwedd ar yr ymosodiad.

‘Mae pobl yn yr Wcráin yn ddiolchgar am yr holl gefnogaeth gan y DU. Os safwn gyda’n gilydd, gallwn atal digwyddiadau erchyll a allai ddigwydd. Felly, hoffwn apelio ar bobl i beidio â gwylio’r newyddion heno, ond i fod yn rhan o’i greu.’

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price:

‘Yr wythnos diwethaf yr oeddwn yn Kyiv, lle clywais straeon dirdynnol y rhai sydd eisoes wedi bod yn byw o dan gyfundrefn ffasgaidd Putin.

‘Nawr, mae wedi datgan rhyfel nid yn unig ar hawl cenedl Wcreinaidd i fodoli – ond ar ryddid, democratiaeth a hawliau dynol ym mhobman.

‘Drwy ymgasglu heno, byddwn ni yng Nghymru yn dangos ein bod yn sefyll mewn undod llwyr â phobl yr Wcráin – ac yn erbyn rhyfel Putin.

‘Rydym yn galw ar Lywodraeth y DU i osod embargo economaidd llwyr ar lywodraeth Putin gan gynnwys ar werthiannau olew a nwy, canslo dyled dramor Wcráin, a darparu statws preswylio ar gyfer visa a llwybr carlam i bob Wcreiniad sy’n ffoi rhag rhyfel.

‘Yn olaf, dylem ddangos ein bwriad i ddod â chyhuddiad yn erbyn Putin, Lavrov ac eraill am droseddu ymosodol fel y byddant yn cael eu dal yn atebol yn yr Hague ryw ddydd.’

Dywedodd Mick Antoniw AS:

‘Mae’r rhyfel yn yr Wcráin wedi dod yn rhyfel y bobl yn erbyn gormes Rwsia ac am ryddid.

‘Rhaid i ni sicrhau boicot economaidd, gwleidyddol a diwylliannol llwyr o Rwsia ac, o Gymru, rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i’r ffoaduriaid hynny sydd am ddod i Gymru er diogelwch.

‘Rhaid i ni i gyd brotestio yn erbyn ymosodiad Rwsia ar ddemocratiaeth.

‘Diolch i’r holl Gymry am eu cefnogaeth hyd yn hyn, ond mae llawer mwy i’w wneud dros y dyddiau tywyll nesaf sydd o’n blaenau. Fe fydd yr Wcráin yn rhydd!’


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle