Propel yn galw am ddiwrnod o wyliau i staff Cyngor Caerdydd ar Ddydd Gŵyl Dewi

0
267
Neil McEvoy AM

Mae Grŵp o gynghorwyr Propel yng Nghaerdydd wedi cyflwyno cynnig yn galw am ddiwrnod o wyliau i holl staff y Cyngor o 2023 ymlaen.

Dywedodd Arweinydd Propel Neil McEvoy,

“Cyngor Prifddinas Cymru ddylai gymryd yr awenau. Flynyddoedd yn ôl fe wnaethom warantu diwrnod i ffwrdd os byddai staff yn gofyn amdano, dylem fynd ymhellach a rhoi diwrnod i ffwrdd i’r holl staff. Os bydd y sector cyhoeddus yn arwain ar hyn, gallwn gael gŵyl banc rithwir drwy fynd ati ein hunain, heb orfod aros am ganiatâd San Steffan.

“Bydd cynnig Propel yn cael ei drafod ar Ddydd San Padrig, sy’n ddathliad byd-eang. Rwyf am i Ddydd Gŵyl Dewi gael yr un statws. Rydym yn Gymry ac yn falch. Dewch i ni ddathlu ein diwrnod cenedlaethol yn iawn.”

Dywedodd y Cynghorydd Keith Parry,

“Dylai Mawrth 1af fod yn ddechrau tymor twristiaeth Cymru. Dylai Cymru gyfan gael y cyfle i ddathlu ein Cymreictod. Dylem oll fod yn peintio ein trefi yn goch, gwyn a gwyrdd ar ddiwrnod ein nawddsant cenedlaethol. Mae’r manteision diwylliannol ac economaidd mor amlwg. Gadewch i ni fynd amdani.”

Mae’r cynnig sydd i’w drafod isod:

Mae’r Cyngor yn gofyn i’r Cabinet ystyried:

1. cydnabod Dydd Gŵyl Dewi yn swyddogol drwy roi diwrnod o wyliau i’w weithlu er mwyn dathlu Gŵyl ein Nawddsant ar 1 Mawrth 2023 a phob blwyddyn wedi hynny;

2. rhoi’r ymgynghoriad angenrheidiol ar waith gyda staff ac undebau llafur i sicrhau gŵyl banc effeithiol i staff y Cyngor;

3. cyflwyno adroddiad gerbron y Cyngor yn amlinellu manteision economaidd a diwylliannol gŵyl banc Dydd Gŵyl Dewi, gan gynnwys neilltuo cymorth ariannol ar gyfer holl orymdeithiau sifil dydd Gŵyl Dewi yn y dyfodol.

Ymhellach, mae’r Cyngor yn galw ar Lywodraeth San Steffan i ddatganoli i Lywodraeth Cymru y pŵer i greu gwyliau banc i Gymru (drwy Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971) – yn yr un modd ag sydd eisoes yn digwydd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle