Gyda rheolau Covid wedi llacio ar draws Cymru, cyhoeddodd elusen boblogaidd Goldies Cymru ei bod yn dod â’i sesiynau hwyliog Caneuon&Gwenau yn ôl ar gyfer pobl hŷn ac ynysig. Cynhelid sesiynau Goldies Cymru yn ystod y dydd ledled De Cymru cyn y cyfnod Covid. Pan y’u gorfodwyd i ddod i ben, cyflwynodd yr elusen ei sesiynau canu soffa www.goldieslive.com i bobl ymuno â nhw o’u cartrefi.
Mae GoldiesLive wedi parhau am y 18 mis diwethaf gyda sesiynau ar ddyddiau Mawrth a Iau ynghyd â sesiwn fisol Gymraeg ychwanegol.
Dywedodd Grenville Jones, sefydlydd Goldies:
“Roeddem yn ymwybodol iawn fod llawer o’r bobl a fynychai ein sesiynau yn ystod y dydd cyn Covid yn byw bywydau unig. Os oeddent yn ynysig cyn hynny, yna fe wnaeth Covid yn bendant ychwanegu at yr unigrwydd hwnnw.
“Rydym yn gweithio gyda llawer o sefydliadau yng Nghymru i gyflwyno GoldiesLive ac rwyf wrth fy modd y gallwn ddod â rhai o’n sesiynau yn ystod y dydd yn ôl gyda’r bwriad o ychwanegu llawer mwy yn y misoedd i ddod. Fodd bynnag, byddwn yn parhau gyda sesiwn GoldiesLive tan ddiwedd eleni.”
Rachel Parry yw Arweinydd Rhaglen Goldies Cymru a gefnogir gan Sefydliad Moondance sydd â’u pencadlys yng Nghaerdydd. Dywedodd Rachel:
“Rydym yn falch iawn fod ein sesiynau cyntaf Goldies Cymru poblogaidd yn ailddechrau y mis hwn (Mawrth) ar ôl y seibiant a orfodwyd gan y pandemig.
“Os ydych yn mwynhau cyd-ganu gyda’r hen ffefrynnau o’r 50au ymlaen, ewch draw i’ch sesiwn agosaf, gwneud ffrindiau a MWYNHAU. Rydym yn elusen gofrestredig ac yn gofyn i’r rhai sy’n mynychu fod cystal â rhoi cyfraniad o £3 at ein gwaith fel y gallwn ymestyn ein sesiynau gan gyrraedd pobl hŷn ynysig ar draws Cymru.”
Y sesiynau sy’n dechrau y mis hwn yw:
RHYMNI, GWENT yng nghanolfan chwaraeon a chymunedol Ael y Bryn, Aneurin Terrace, Rhymni, Gwent, NP22 5DR ar ddydd Mercher olaf y mis rhwng 12.00-1.00pm gyda Carol Pegler yn arwain y sesiwn.
TREDEGAR yn Llyfrgell Tredegar, Y Cylch, Tredegar, Gwent, NP22 3PS ar ail ddydd Mawrth y mis rhwng 12.00-1.00pm gyda Carol Pegler yn arwain.
PEN-Y-BONT AR OGWR Eglwys St Theodore, Stryd Fawr, Mynydd Cynffig, Pen-y-bont ar Ogwr, CF33 6DR ar ail ddydd Mawrth y mis rhwng 11.00-12.00pm gyda Cheryl Davies yn arwain y sesiwn.
CAERDYDD yn yr EGLWYS NEWYDD yn Eglwys Bedyddwyr Ararat, Plas Treoda, Eglwys Newydd, Caerdydd CF14 1PT ar ddydd Llun cyntaf y mis rhwng 2.00-3.00pm gyda Geoff Ashford yn arwain y sesiwn.
RHYDYPENNAU – CAERDYDD Eglwys yng Nghymru Park End, Heol Llandennis, Rhydypennau, Caerdydd, CF23 6EG – Mae hon yn SESIWN WYTHNOSOL, bob dydd Iau rhwng 10.30-11.30am gyda Sue Thomas yn arwain y sesiwn.
RHIWBEINA – CAERDYDD yn Llyfrgell Rhiwbeina, Pen-y-Dre, Rhiwbeina, Caerdydd, CF14 6EH ar drydydd dydd Mercher y mis rhwng 10.30-11.30am gyda Rachel Parry yn arwain y sesiwn.
SIR GAERFYRDDIN CASTELL NEWYDD EMLYN Neuadd Gymunedol Eglwys y Drindod Sanctaidd, Lôn yr Eglwys, Castell Newydd Emlyn, SA38 9AM ar ddydd Llun olaf y mis rhwng 11.00-12.00pm gyda Claire Thomas yn arwain y sesiwn.
CASTELL NEDD – PORT TALBOT sesiwn CEFNOGI DEMENTIA yng Nghapel Tabernacl,
14 Stryd Thomas, Pontardawe, Abertawe SA8 4HD ar ddydd Iau cyntaf y mis rhwng 11.00-12.00pm gyda Naomi Bishop yn arwain y sesiwn.
BRO MORGANNWG DINAS POWYS, dylid nodi fod hyn AR GAU I’R CYHOEDD ac fe’i cynhelir mewn partneriaeth gyda C3SC – Cyngor Trydydd Sector Caerdydd Canolfan Gymunedol Murchfield, Sunnycroft Lane, Dinas Powys, CF64 4QQ sesiynau yn ôl y cais gyda Rachel Parry.
LLANILLTUD FAWR yn Neuadd Lantonian, tu ôl i Glwb Rygbi Llanilltud Fawr, ger Heol Boverton, Llanilltud Fawr, CF61 1TF ar drydydd dydd Llun y mis rhwng 10.30am – 11.30am gyda Geoff Ashford.
CADWCH EICH LLYGAID AR AGOR – caiff mwy o sesiynau eu hychwanegu yn fuan.
Os hoffech wybod mwy ffoniwch Rachel Parry ar 07796 714816.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle