Llwybr yn cael ei gyhoeddi ar gyfer 10k elusen y Maer ym Mharc Margam

0
413

Mae’r llwybr ar gyfer ras 10k gyntaf erioed Parc Margam wedi’i ddatgelu.

Disgwylir i’r rhediad ar dir cymysg gael ei gynnal ddydd Sul 13 Mawrth (gan ddechrau am 10am) i gefnogi cronfa elusen Maer Castell-nedd Port Talbot.

Bydd y ddolen olygfaol 5k yn dechrau ac yn gorffen yn y plasty Tuduraidd-Gothig o’r 19eg ganrif, a bydd yn arddangos y gorau o Barc Margam. Bydd rhedwyr yn mynd heibio dri o lynnoedd y parc cyn mynd ar hyd ei lwybrau coetirol a heibio’r caeau sy’n gartref i hyddgre enwog Margam.

Gall cystadleuwyr ddewis rhwng y llwybrau 10k neu 5k, ac yn ogystal â mwynhau’r rhediad drwy’r parc hanesyddol, byddant yn helpu i godi arian a chynyddu ymwybyddiaeth ar gyfer dau achos da gwerth chweil – Her Canser Castell-nedd Port Talbot a Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru.

Bydd pob rhedwr yn derbyn medal arbennig i gyfranogwyr yn ogystal ag amser rhedeg manwl gywir o’u sglodyn amseru.

I fod yn rhan o’r digwyddiad rhedeg cyffrous hwn, gallwch gofrestru ar-lein yn:www.margamcountrypark.co.uk/10k . Y gost am gymryd rhan yn y ras yw £20 y person.

Meddai Maer Castell-nedd Port Talbot, y Cyng. John Warman, “P’un a ydych am wthio’ch hun, dod mewn gwisg ffansi neu gael rhediad hamddenol gydag ambell ffrind, bydd 10k Parc Margam yn ffordd wych o gael gwared ar flinder y gaeaf a pharatoi eich hun ar gyfer y gwanwyn yn yr amgylchoedd trawiadol hyn.

“Byddwch hefyd yn helpu i roi cyhoeddusrwydd i’m dwy elusen fel Maer, Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru a Her Canser Castell-nedd Port Talbot (NPTCC).”

Elusen leol sy’n helpu pobl leol yw NPTCC ac mae’n cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr. Ei nod yw helpu gydag atal a thrin pob math o ganser, a’i ddiagnosio’n gynnar. Mae’r elusen yn codi arian i brynu cyfarpar ar gyfer ysbytai lleol yng Nghastell-nedd Port Talbot, Singleton, Treforys a Phen-y-bont ar Ogwr.

Mae Sefydliad Prydeinig y Galon (BHF) Cymru yn helpu i ariannu ymchwil sy’n arbed bywyd i glefydau’r galon a chylchrediad y gwaed er mwyn dod o hyd i well ffyrdd o’u trin, eu diagnosio ac yn y pen draw eu gwella.

Mae’r digwyddiad newydd sbon yn cael ei gefnogi gan John Pye Auctions, Auction City, Ystâd Ddiwydiannol Cynffig, Margam – cyfleuster arwerthu cyffredinol dan do mwyaf Ewrop (www.johnpye.co.uk/auction-locations/south-wales/) .


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle