Ras 10k elusennol yn codi dros £2,000 i Apêl Cemo Bronglais

0
287
Yn y llun wrth drosglwyddo siec yn Ysbyty Bronglais mae Cyfarwyddwr y Ras Anita Worthing (canol); Nyrs Arbenigol Oncoleg Rhian Jones (chwith) a Nyrs Haematoleg Arbenigol Eirian Gravell

Mae trefnwyr ras 10K Aberystwyth wedi cyflwyno siec am dros £2,000 a godwyd ar gyfer Apêl Cemo Bronglais.

Dewiswyd yr Apêl i fod yn unig fuddiolwr y ras, a gynhelir yn flynyddol ym mis Rhagfyr i godi arian at elusennau lleol.

Yn y llun wrth drosglwyddo siec yn Ysbyty Bronglais mae Cyfarwyddwr y Ras Anita Worthing (canol); Nyrs Arbenigol Oncoleg Rhian Jones (chwith) a Nyrs Haematoleg Arbenigol Eirian Gravell.

Cymerodd cyfanswm o 444 o redwyr ran yn y ras ar 5 Rhagfyr 2021 a dywedodd Anita eu bod yn falch bod cyfanswm o £2,064 wedi’i godi a bod Apêl Cemo Bronglais yn elwa o’r elw.

Mae cadarnhad hefyd y bydd elw ras 2022 yn mynd at yr Apêl ac y bydd y Cambrian News yn parhau fel noddwr swyddogol y ras.

“Mae gofal canser wedi bod wrth galon y gwaith o godi arian ar gyfer 10k Aberystwyth ers ei ddechrau yn y 1990au. Roedd sylfaenydd y ras, Carl Williams, hefyd yn gefnogwr mawr o uned cemotherapi Ysbyty Bronglais felly mae’n addas y dylai elw ras 2021 fynd i Apêl Cemo Bronglais,” meddai Cyfarwyddwraig y Ras, Anita.

Mae Apêl Cemo Bronglais yn anelu at godi £500,000 ar gyfer uned ddydd cemotherapi bwrpasol yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth.

Bydd uned newydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobol o Geredigion, Gwynedd a Phowys sy’n derbyn triniaeth gwrth-ganser.

I gyfrannu neu sefydlu tudalen codi arian ar-lein ewch i: https://hyweldda.enthuse.com/cf/bronglais-chemo-appeal

Am fwy o wybodaeth am yr apêl ewch i: www.hywelddahealthcharities.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle