Ffermwyr Cymru yn cael eu gadael heb lais nac amddiffyniad gan gytundeb masnach y DU-NZ

0
251
Mabon ap Gwynfor AS

Plaid yn mynegi ‘pryder sylweddol’ am yr effaith negyddol ar ffermwyr Cymru

Mae Plaid Cymru wedi mynegi pryderon sylweddol ynglŷn â’r cytundeb masnach newydd rhwng y DU a Seland Newydd.

Mae’r cytundeb masnach yn edrych i agor drysau ar gyfer mewnforio bwyd rhatach o safon is, a allai daro’r sector ffermio yng Nghymru yn galetach nag mewn unrhyw ran arall o’r DU.

Mae NFU Cymru wedi codi pryderon am y fargen yn ddiweddar, gan ddweud na ellir gorbwysleisio’r effaith negyddol bosibl.

Mae cytundeb masnach Seland Newydd yn dilyn cytundeb tebyg arall gydag Awstralia, ac er ei fod yn cynnig manteision sylweddol i ffermwyr ar ochr arall y byd, gallai greu newidiadau sylweddol i’r farchnad ar gyfer ffermio yng Nghymru.

Heddiw (2 Mawrth, 2022), fe fydd Llefarydd Plaid Cymru ar Amaethyddiaeth, Mabon ap Gwynfor AS, yn codi’r mater ar frys gyda Llywodraeth Cymru yn y Senedd.

Dywedodd Mabon ap Gwynfor MS:

“Er y bydd y sbin yn ymwneud â manteision, y gwir yw bod y fargen fasnach hon yn achos pryder gwirioneddol i ffermwyr Cymru.

“Bydd y cytundeb yn darparu cyfnod pontio o 15 mlynedd, ac mae’n dweud na fyddant ond yn gallu ‘defnyddio mynediad newydd i farchnad cig defaid y DU hyd nes y byddant wedi llenwi 90% o’u cwota sefydliad masnach y byd (WTO) presennol’.

“Fodd bynnag, mae hyn yn gadael ffermwyr Cymru ar fympwy marchnad lle nad oes ganddynt unrhyw reolaeth na mewnbwn. Pe bai rhywbeth yn newid yn y farchnad cig defaid yna byddai cig Seland Newydd yn cyrraedd yma neu yn yr UE yn sydyn iawn, ac yn tanseilio ffermwyr Cymru.

“Drwy fethu â sicrhau bod tariffau ar fewnforion yma mae Llywodraeth y DU wedi gadael ffermwyr Cymru yn gwbl agored i fympwy marchnad lle nad oes ganddynt lais nac amddiffyniad.

“Mae angen i Lywodraeth y DU gynnal asesiad effaith llawn o’r cytundebau masnach hyn ar Ffermwyr Cymru, sy’n llawer mwy agored i niwed gan gytundeb masnach gwael gyda Seland Newydd ac Awstralia na ffermwyr eraill yn y DU.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle