Cyngor yn cymeradwyo cyllideb 2022-2023

0
271

Mae cyllideb Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod wedi cael ei chymeradwyo gan Gynghorwyr mewn cyfarfod o’r Cyngor a gynhaliwyd yn rhithiol ddydd Iau, 03 Mawrth 2022, ac mae wedi’i gosod ar £165.843m, ynghyd â chynnydd o 2.5% mewn Treth y Cyngor, sy’n ostyngiad o’r cynigion blaenorol yn sgil y cyllid newydd a gyhoeddwyd.

Derbyniodd y Cyngor ohebiaeth gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddar ynghylch cyllid newydd a allai gael ei ddefnyddio ar gyfer pwysau chwyddiannol. Gan ystyried y pwysau ariannol ychwanegol sy’n wynebu ein trigolion, gan gynnwys y costau byw/chwyddiant cyfredol a bod y treth yswiriant cenedlaethol newydd yn dod i rym ar 01 Ebrill 2022, bydd y cyllid newydd, lle dylai Ceredigion gael mwy na £1m, yn golygu cynnydd sy’n sylweddol llai yn Nhreth y Cyngor ar gyfer y flwyddyn nesaf yn unig.

Mae gwasanaethau o safon uchel yn parhau i gael eu darparu i drigolion ac, ar hyn o bryd, mae gan Geredigion gyfradd Treth y Cyngor Band D sy’n is na chyfartaledd Cymru gyfan.

Dywedodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Mae’r Cyngor yn ymwybodol o’r pwysau ariannol ychwanegol sy’n wynebu ein trigolion, gan gynnwys costau byw/chwyddiant a chynnydd sylweddol mewn prisiau ynni. Mae setliadau isel a phwysau ychwanegol yn debygol ar gyfer y ddwy flynedd nesaf. Rydym yn croesawu’r cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru sydd wedi cael ei gymhwyso i Dreth y Cyngor ledled y sir ac mae cydbwysedd wedi’i daro er mwyn galluogi gwasanaethau i barhau ar gyfer ein trigolion.”

Mae rhagor o wybodaeth am y Gyllideb ar gyfer 2022-2023 ar gael ar wefan Cyngor Sir Ceredigion:  https://cyngor.ceredigion.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=149&MId=165&LLL=1


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle