Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Mae’r ymosodiad diachos ar Wcráin yn gwaethygu – yn yr un modd â’r argyfwng dyngarol enbyd, sydd wedi arwain at ddadleoli bron i filiwn o bobl mewn dim ond saith diwrnod.
Rydym yn ailadrodd ein hundod diamwys â phobl Wcráin yn wyneb ymosodiad Putin.
Yr wythnos hon rydym wedi paratoi ystod eang o fesurau cefnogaeth mewn ymateb i’r argyfwng dyngarol sy’n datblygu. Hoffwn ddiolch i swyddogion, awdurdodau lleol, y trydydd sector, arweinwyr ffydd a’r cyhoedd am eu hymateb cyflym a chadarn. Mae hyn eto yn cadarnhau bod Cymru wir yn Genedl Noddfa.
Yn dilyn ein cyhoeddiad ar ddechrau’r wythnos y byddem yn darparu £4m mewn cymorth dyngarol i Wcráin, gallaf gadarnhau y bydd y cyllid hwn yn cael ei roi i’r Pwyllgor Argyfyngau (DEC), sy’n cynrychioli 15 o’r elusennau cymorth mwyaf. Drwy ddyrannu’r cyllid fel hyn, gallwn sicrhau ei fod yn cyrraedd y rhai sydd ei angen mor gyflym ac mor effeithlon â phosibl.
Ddydd Mercher, cyfarfu’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a minnau ag arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, arweinwyr awdurdodau lleol o bob rhan o Gymru a’r trydydd sector i drafod ein parodrwydd i dderbyn pobl sy’n dianc rhag y trais yn Wcráin. Roedd penderfyniad unfrydol i gynnig pob cefnogaeth bosibl.
Canmolwyd haelioni’r cyhoedd yng Nghymru, sydd wedi bod yn awyddus i roi a chefnogi pobl Wcráin. Fodd bynnag, mae cyfrannu nwyddau yn peri problemau ymarferol yma a thramor. Rydym yn annog pobl sydd am gyfrannu – ac sy’n gallu gwneud hynny – i roi rhodd ariannol i apêl y Pwyllgor Argyfyngau yma: www.dec.org.uk
Rydym yn archwilio opsiynau i sicrhau y gellir darparu cymorth yma yng Nghymru pan fydd dinasyddion Wcráin yn dechrau cyrraedd. Byddwn yn rhoi diweddariadau pellach maes o law. Mae tudalen bwrpasol wedi’i sefydlu ar ein gwefan sy’n nodi sut y gall pobl helpu. Mae’n cynnwys ffynonellau cymorth i bobl y mae’r rhyfel yn Wcráin yn effeithio’n uniongyrchol arnynt: Wcráin: cefnogaeth i bobl a effeithir | LLYW.CYMRU.
Rydym yn parhau i fod mewn cysylltiad agos â Llywodraeth y DU i ddeall sut y bydd ei chynlluniau fisa arfaethedig yn gweithredu a sut y gall Cymru chwarae ei rhan yn llawn.
Rydym yn gweithio gyda chyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru er mwyn nodi unrhyw fuddsoddiadau sy’n gysylltiedig â gwladwriaeth Rwsia a gweithredu ar hynny.
Nid oes amheuaeth mai Putin, ac nid pobl Rwsia, sy’n gyfrifol am yr ymosodiad diachos hwn yn Wcráin.
Yng Nghymru, mae gennym aelodau gwerthfawr o’r gymuned sy’n hanu o Wcráin, Rwsia a Belarws a rhaid inni sicrhau bod ein geiriau a’n gweithredoedd yn amddiffyn eu diogelwch. Ategaf eiriau Mick Antoniw AS a roddodd deyrnged i fyfyrwyr a phobl ifanc ddewr Rwsia sydd wedi bod yn protestio ledled Ffederasiwn Rwsia. Y bobl hyn yw gwir ddyfodol Rwsia.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle