Opera Canolbarth Cymru yn syfrdanu cynulleidfaoedd Llanelli y gwanwyn hwn

0
291

Gall cynulleidfaoedd Llanelli edrych ymlaen at noson wych wrth i Opera Canolbarth Cymru ac Ensemble Cymru ddod â champwaith mawreddog Puccini, La Bohéme, i lwyfan y Ffwrnes ar 24 Mawrth am 7:30pm.

Wrth adrodd stori gariad oesol Rodolfo a Mimi, mae campwaith Puccini yn dathlu grym cariad a chyfeillgarwch. Bydd Ensemble Cymru yn perfformio sgôr odidog Puccini sy’n ennyn atgofion, gyda rhai o ariâu mwyaf poblogaidd y byd opera yn creu naws caffi ym Mharis yn ogystal â realiti oeraidd ffordd o fyw wrth fin y gyllell y bohemiad. Mae La Bohème yn dod â thymor Puccini ym Mharis Opera Canolbarth Cymru i ben, a gafodd ei ohirio am flwyddyn yn sgil theatrau yn cau oherwydd Covid

Robyn Lyn Evans

Mae’r bohemiaid ifanc yng nghynhyrchiad Opera Canolbarth Cymru yn cael eu darlunio gan gast arbennig a chyfoeth o dalent o Gymru. Caiff rôl Rodolfo ei chanu gan Denor o Gymru, Robyn Lyn Evans, a gafodd ei fagu ym Mhont-rhyd-y-groes, Ceredigion, a graddiodd o Goleg y Drindod, Caerfyrddin. Mae’n falch iawn o ailberfformio un o’i hoff rolau.

Mae Theatr y Ffwrnes yn un o dair theatr Cyngor Sir Caerfyrddin, Theatrau Sir Gâr. Mae mesurau diogelwch Covid yn parhau i fod ar waith ar gyfer y perfformiad hwn, gweler gwefan Theatrau Sir Gâr i weld yr holl fanylion.

Pris y tocynnau yw £17 a £19 a gellir eu prynu drwy’r Swyddfa Docynnau ar 0345 2263510 neu ar-lein www.theatrausirgar.co.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle