Canfod dyn yn euog o dreisio a cham-drin plant

0
183

Mae dyn o Gaerfyrddin wedi’i euogfarnu o gam-drin a threisio plant yn dilyn prawf yn Llys y Goron Abertawe.

Gwadodd James Thomas, 42 oed, o Heol Mansel, Caerfyrddin, yr 21 cyhuddiad – deg cyhuddiad o dreisio plant, gan gynnwys dau gyhuddiad o dreisio plentyn iau na 13 oed, naw cyhuddiad o ymosodiad rhywiol ar blant, a dau gyhuddiad o achosi neu ysgogi plentyn i gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol.

Dywedodd un dioddefydd bod y cam-drin wedi cychwyn pan oedd hi ond yn 5 oed. Cyffyrddodd Thomas â hi mewn ffordd rywiol, a pharodd y cam-drin am tua chwe blynedd.

Dywedodd dioddefydd arall bod y cyffwrdd wedi cychwyn pan oedd hi’n 11 oed, cyn i Thomas ei threisio cyn iddi’n troi 13 oed. Aeth y cam-drin ymlaen am dair blynedd arall.  

Arestiwyd Thomas, cyn gludwr nwyddau, gan Heddlu Dyfed-Powys ar ôl i ddioddefydd achwyn ym mis Ionawr 2020. Gwahodd yr holl gyhuddiadau a honnodd fod y dioddefwyr wedi ffugio’r cam-drin. 

Ond yn dilyn prawf 5 diwrnod, cafodd ei ganfod yn euog o bob cyfrif.

Bydd e’n cael ei gadw yn y ddalfa tan ei fod e’n dedfrydu ar ddydd Mawrth, Mawrth 29.

Dywedodd yr uwch swyddog ymchwilio, y Ditectif Arolygydd Llyr Williams: “Dangosodd Thomas ddiffyg parch tuag at ei ddioddefwyr, gan wadu’n greulon bod eu poen a’u galar yn bodoli. 

“Galluogodd ymchwiliad heddlu ardderchog y rheithgor i ddychwelyd dyfarniad o euog, sy’n cael ei groesawu gan yr heddlu.

“Hoffwn ddiolch i’r dioddefwyr am eu dewrder a’u hamynedd yn ystod ymchwiliad heddlu hir.

“Heb os, yn drasig, bydd gan ei gam-drin effaith barhaol arnynt, ond rydym yn gobeithio y bydd dedfryd heddiw’n rhoi rhywfaint o gysur iddynt ac yn eu galluogi i symud ymlaen â’u bywydau.

“Os ydych chi’n dioddef oherwydd cam-drin tebyg, cysylltwch â’r heddlu. Os fyddai’n well gennych siarad â rhywun yn gyfrinachol, mae Llwybrau Newydd yn elusen annibynnol a fydd yn eich cefnogi yn ystod pob cam o’r ymchwiliad.”

Gellir cysylltu â Llwybrau Newydd drwy alw 01685 379 310 neu drwy anfon e-bost at enquiries@newpathways.org.uk

Cewch gysylltu â Heddlu Dyfed-Powys drwy alw heibio i https://www.dyfed-powys.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/cysylltu-a-ni/, drwy anfon e-bost at 101@dyfed-powys.police.uk, neu drwy alw 101. Os ydych chi’n fyddar, yn drwm eich clyw, neu â nam ar eich lleferydd, anfonwch neges destun at y rhif difrys 07811 311 908.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle