Carcharu dynion am werthu cyffuriau o fflat a feddiannwyd drwy gogio yn Llanelli

0
1316

Mae dau ddyn o Gasnewydd a oedd yn rhedeg ymgyrch llinellau cyffuriau ac yn gwerthu crac cocên a heroin yn Llanelli wedi’u carcharu.

Ar 19 Ionawr, arestiodd swyddogion o Dîm Plismona Achosion Difrifol Sir Gaerfyrddin Heddlu Dyfed-Powys Joshua Aspell, 25 oed, o  Fryn Bevan, Casnewydd, a Michael Brace, 30 oed, sydd heb gartref sefydlog, ar ôl gweithredu gwarant gyffuriau mewn fflat yng Nghlos Granby, Llanelli.

Wrth chwilio’r eiddo, a gafodd ei feddiannu drwy gogio, daeth swyddogion o hyd y ddau lapiad maint pêl golff mewn haenau glynu a oedd yn cynnwys deliau llai, a arweiniodd at arestio’r ddau ddyn.

Daeth swyddogion o hyd i dros £970 mewn arian parod, tafol a ffôn symudol â rhif y gwyddid ei fod yn cael ei ddefnyddio’n aml ar gyfer cyflenwi cyffuriau yn yr ardal.

Yn ddiweddarach, datgelodd profion bod un o’r pecynnau’n cynnwys heroin a bod y llall yn cynnwys crac cocên.

Pan oedd yn y ddalfa, y diwrnod canlynol, cadarnhaodd Brace, a oedd dan wyliadwriaeth, ei fod wedi rhoi rhywfaint o gyffuriau i fyny ei anws. Ar ôl cael gafael arnynt, canfu mai heroin a chrac cocên oedd y cyffuriau hyn.

Roedd gan y cyffuriau Dosbarth A a atafaelwyd werth posibl o tua £3,770 a £4,220 ar y stryd, fodd bynnag, galluogodd tystiolaeth, gan gynnwys cofnodion ffôn, yr heddlu i ddangos bod eu gweithgarwch gwerthu cyffuriau’n mynd ymhell tu hwnt i hyn. 

Pleidiodd Brace ac Aspell yn ddieuog i’r cyhuddiadau cyflenwi cyffuriau yn eu gwrandawiad cyntaf yn y llys ynadon, ond wedi’u hwynebu â’r dystiolaeth a gasglwyd gan swyddogion o Heddlu Dyfed-Powys, plediodd y ddau’n euog yn llys y goron. 

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Rhys Jones: “Mae hwn yn ganlyniad cadarnhaol i’n heddlu wrth inni barhau i aflonyddu ar ymgyrchoedd llinellau cyffuriau yn ein hardal.

“Arestiwyd Aspell a Brace ym mis Ionawr, ac wythnosau’n ddiweddarach, maen nhw’n cychwyn dedfrydau o garchar ar ôl treulio’r amser ers iddynt gael eu harestio ar remand yn y ddalfa.

“Mae’r ddau ddyn hyn o ardal Casnewydd, ac nid oes gan yr un ohonynt gysylltiad â Llanelli, felly daethon nhw draw fan hyn gan feddwl am ddim byd ond lledaenu diflastod drwy werthu cyffuriau. 

“Drwy waith plismona da, roedd modd inni roi terfyn ar hyn.

“I gychwyn, pleidiodd Aspell a Brace yn ddieuog, ond oherwydd yr holl dystiolaeth yn eu herbyn, newidiodd y ddau eu pledion i euog.” 

Roeddent yn Llys y Goron Abertawe ddydd Iau 24 Chwefror pan ddedfrydwyd Aspell i bum mlynedd ac 11 mis o garchar a dedfrydwyd Brace i bedair blynedd o garchar.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle