Safonau Masnach Cymru yn meddiannu dros 3 miliwn o sigaréts yn y 12 mis diwethaf

0
316
Mae'r ci synhwyro cyffuriau wedi cael ei ddefnyddio i ddadorchuddio tybaco anghyfreithlon ar draws Cymru.

Mae heddiw yn Ddiwrnod Dim Ysmygu, diwrnod lle mae’r ffocws cenedlaethol ar ysmygu, y niwed mae’n eich achosi, sut i roi’r gorau iddi a’r gwaith a wneir y tu ôl i’r llenni i ostwng nifer y bobl sy’n ysmygu.

Bydd un ym mhob dau o ysmygwyr tymor hir yn marw o flaen eu hamser o ganlyniad i’r ffaith eu bod yn gaeth i sigaréts ac mae dros 5000 o bobl yn marw pob blwyddyn yng Nghymru yn sgil afiechydon sy’n ymwneud ag ysmygu. Ar hyn o bryd, mae 17% o oedolion yng Nghymru yn ysmygu. Dyma’r isaf y mae wedi bod erioed ond mae hynny dal i olygu 425,000 o bobl. Mae ysmygu yn achosi diflastod i nifer o deuluoedd ac yn faich arwyddocaol ar ein system gofal iechyd.

Am y rhesymau hyn, mae ffocws mawr ar helpu pobl i roi’r gorau i ysmygu ac atal pobl rhag dechrau ysmygu yn y lle cyntaf. Plant yw ysmygwyr newydd gan fwyaf a dechreuodd y mwyafrif o ysmygwyr presennol ar eu harfer ymhell cyn iddynt ddod yn oedolyn.

Mae nifer o asiantaethau yng Nghymru gyda rhan i’w chwarae ac un o’r rhain yw Safonau Masnach yng Nghymru. Mae ffocws allweddol gan Safonau Masnach ar fasnachu mewn tybaco anghyfreithlon. Yn 2021, gyda chefnogaeth ariannol oddi wrth Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi dan Weithrediad Cece, mae Swyddogion Safonau Masnach wedi meddiannu dros 3 miliwn o sigaréts ar draws Cymru gyfan gyda gwerth stryd o dros ¾ miliwn o bunnoedd. Roedd hyn dros 2.8 miliwn o sigaréts a bron hanner tunnell o dybaco rholio. 

Mae tybaco anghyfreithlon ar gael i’w brynu ar draws Cymru o amrywiaeth o fannau gwerthu gan gynnwys siopau a thrwy lwyfannau cyfryngau cymdeithasol. Fel arfer, mae’n hanner pris tybaco cyfreithlon ac nid oes rheolaeth dros oedran cwsmeriaid. Mae hyn yn gwneud prynu tybaco yn llawer haws i blant ac iddynt ddod yn gaeth iddo. Mae’r mwyafrif o oedolion sy’n ysmygu eisiau rhoi’r gorau iddo ond mae tybaco rhad sydd ar gael yn hawdd yn gwneud hyn yn anoddach. 

Dywedodd Roger Mapleson, Swyddog Arwain dros Dybaco ar gyfer Safonau Masnach: “Mae’r farchnad dybaco anghyfreithlon yn cyflwyno bygythiad o bwys i iechyd, yn enwedig iechyd plant. Nid yw gwerthwyr tybaco anghyfreithlon yn malio am gyfyngiadau oedran na chyfreithiau eraill sy’n cyfyngu ar werthu tybaco, ac maent yn sicrhau fod sigaréts ar gael yn rhwydd i blant am brisiau fforddiadwy. Mae’r rheini sy’n gwerthu tybaco anghyfreithlon ar ddiwedd cadwyn gyflenwi ryngwladol. Mae’r arian a ddaw yn sgil gwerthu tybaco anghyfreithlon yn ariannu troseddu cyfundrefnol sy’n gysylltiedig â gweithgaredd anghyfreithlon arall gan gynnwys cyffuriau anghyfreithlon eraill.

“Mae nifer o’r deunyddiau a feddiannwyd ar hyn o bryd yn destun archwiliadau a fydd yn arwain at erlyn yr unigolion sy’n gyfrifol. Bydd Safonau Masnach yn parhau i fynd i’r afael â thybaco anghyfreithlon ar draws y wlad a gall unrhyw un sy’n rhan o gyflenwi tybaco anghyfreithlon ddisgwyl gweld eu stoc yn cael ei feddiannu a chamau gweithredu troseddol yn cael eu cymryd yn eu herbyn.”

Gallwch helpu i yrru tybaco anghyfreithlon allan o’ch cymuned.  I’w adrodd ac i wybod mwy, edrychwch ar https://noifs-nobutts.co.uk/. Fel arall, soniwch amdano wrth yr elusen, Crimestoppers, yn hollol ddienw, ar radffon 0800 555 111.

Os ydych eisiau rhoi’r gorau i ysmygu, edrychwch ar https://www.helpmequit.wales/


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle