Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) yn gwahodd yr aelodau hynny o’r cyhoedd sydd wedi mynegi dymuniad i fod yn rhan o ymgysylltu yn y dyfodol, i gyflwyno datganiadau o ddiddordeb i fod yn rhan o’r broses i helpu i asesu a gwerthuso’r safleoedd ar y rhestr fer.
Bydd y broses werthuso dechnegol hon yn arwain at argymhelliad ar gyfer y lleoliad gorau ar gyfer yr ysbyty gofal brys a gofal wedi’i gynllunio newydd.
Yn ddiweddar, cyflwynodd y bwrdd iechyd Achos Busnes Rhaglen i Lywodraeth Cymru i sicrhau buddsoddiad ar raddfa na welwyd erioed o’r blaen yng Ngorllewin Cymru. Mae un o’r cynigion yn yr achos busnes ar gyfer ysbyty gofal brys a gofal wedi’i gynllunio newydd, rhywle rhwng Arberth yn Sir Benfro a Sanclêr yn Sir Gaerfyrddin.
Er mwyn helpu i ddewis safle ac fel rhan o’i ymrwymiad i ymgysylltu â chymunedau, mae’r bwrdd iechyd yn cysylltu ag unigolion, grwpiau, a sefydliadau o bob rhan o’r tair sir i ofyn am ddatganiadau o ddiddordeb i ymuno â grŵp i asesu a gwerthuso’r safleoedd ar y rhestr fer ac i nodi y lleoliad gorau ar gyfer yr ysbyty.
Mae’r ymarfer hwn yn cynnwys ysgrifennu at fwy na 200 o bobl a gymerodd ran mewn ymarfer ymgysylltu y llynedd, a oedd wedi gofyn am gael gwybod am weithgareddau ymgysylltu yn y dyfodol.
Bydd niferoedd yn gyfyngedig ond mae’r bwrdd iechyd yn chwilio am grŵp amrywiol a chynrychioliadol. Bydd disgwyl i’r rhai sy’n dod yn rhan o’r broses fynychu nifer fach o weithdai hanner diwrnod. Er nad yw dyddiadau wedi’u cadarnhau eto, byddem yn disgwyl i gyfranogiad gynnwys trafodaeth ar y broses ar gyfer gwerthuso, dealltwriaeth o’r meini prawf a ddefnyddiwyd ar gyfer gwerthuso’r rhestr fer o safleoedd a chytuno ar bwysoliad cymharol y meini prawf hynny. Yn olaf, sgorio’r safleoedd ar y rhestr fer i gyrraedd argymhelliad i’r Bwrdd Iechyd.
Mae’r broses yn cael ei rheoli gyda chymorth a chyngor gan The Consultation Institute, corff annibynnol dielw, sy’n darparu canllawiau ar arfer gorau ar gyfer ymgysylltu â chymunedau.
Dywedodd Lee Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu Strategol a Chynllunio Gweithredol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cynrychiolaeth y cyhoedd ar y grŵp gwerthuso hwn yn hollbwysig, ac rydym am iddo fod mor gynrychioliadol â phosibl o’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Bydd y grŵp hefyd yn cynnwys gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol, clinigwyr a phartneriaid yn y sector cyhoeddus.
“Rydym yn deall yn iawn y cryfder teimladau sy’n bodoli o fewn ein cymunedau, a dyna pam y byddwn yn annog y rhai y cysylltwyd â nhw i gyflwyno eu datganiadau o ddiddordeb i gymryd rhan yn y panel hwn, a sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed.
“Mae’r ysbyty gofal brys a gofal wedi’i gynllunio newydd yn un elfen o’n cynllun uchelgeisiol i wella canlyniadau iechyd a llesiant ein poblogaeth. Mae’n rhan o’n strategaeth hirdymor i gyflawni Canolbarth a Gorllewin Cymru Iachach, a ddilynodd ymgysylltu ac ymgynghori helaeth yn 2018.
“Ein targed yw symud o wasanaeth salwch gyda ffocws ar adeiladau ysbytai ac ymyrraeth, i wasanaeth sy’n gweithio ar draws ffiniau i atal afiechyd neu ddirywiad iechyd, gan ddarparu cymorth yn gynt, a lle bynnag y bo modd yn nes at adref.”
Er bod llawer o fanylion am wasanaethau’r dyfodol ar draws Hywel Dda yn cael eu datblygu a’u cynllunio ar hyn o bryd, mae’r bwrdd iechyd wedi cyhoeddi rhestr o Gwestiynau a Ofynnir yn Aml i sicrhau bod y cyhoedd yn cael y wybodaeth fwyaf diweddar.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle