Plant ysgol yng Nghaerdydd yn croesawu peilot 20mya mwyaf Cymru

0
383
© PICTURE BY PATRICK OLNER 07958 546063/www.tallandshort.co.uk
Welsh Government

Mae strydoedd mwy diogel yn achub bywydau ac yn gwella ansawdd bywyd – dyna oedd neges y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters, heddiw wrth iddo groesawu cychwyn peilot 20mya mwyaf Cymru yng Ngogledd Caerdydd.

Mae Gogledd Caerdydd yn un o’r wyth peilot sy’n cael eu cynnal mewn cymunedau ledled Cymru i brofi’r broses o ostwng y terfyn cyflymder arferol ar heolydd preswyl a strydoedd siopa prysur Cymru o 30mya i 20mya erbyn 2023.

Deputy Minister Lee Waters visits Whitchurch Primary School

Mae’r treialon hyn yn rhan o ymgynghoriad mwy gan Lywodraeth Cymru i geisio deall beth mae’r cyhoedd yn ei feddwl. Mae grwpiau ffocws ar-lein gyda thrigolion cymunedau sy’n rhan o’r cymal cyntaf hwn, ymchwil annibynnol ac ymgynghoriad cyhoeddus – y cyhoeddir ei ganlyniadau heddiw – i gyd yn cael eu hystyried cyn rhoi’r fenter ar waith ym mhob man flwyddyn nesaf.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, sydd â chyfrifoldeb am drafnidiaeth, Lee Waters:

© PICTURE BY PATRICK OLNER 07958 546063/www.tallandshort.co.uk

“Mae’r dystiolaeth yn glir.  Mae gostwng cyflymder yn lleihau damweiniau ac yn achub bywydau. Mae’n gwella ansawdd bywyd trwy wneud ein strydoedd a’n cymunedau’n fwy diogel ac yn lle mwy croesawgar i feiciau a cherddwyr a hefyd yn lleihau’r effeithiau amgylcheddol.

“Fel gyda phob newid diwylliannol, mae angen amser i argyhoeddi pobl a bydd rhai yn siŵr o wrthwynebu, ond rwy’n hyderus, o gael pawb i weithio gyda’i gilydd, y gallwn wneud y newidiadau sydd eu hangen ddaw â budd i ni nawr ac yn y dyfodol.”

© PICTURE BY PATRICK OLNER 07958 546063/www.tallandshort.co.uk

Yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd yw un o’r ardaloedd sy’n cymryd rhan yn y cam cyntaf. Mae athrawon a phlant ysgol gynradd leol wedi croesawu’r cynllun ac yn awyddus i rannu eu teimladau a’r hyn y maen nhw’n ei wneud i hyrwyddo cerdded a beicio yn yr ardal â’r Dirprwy Weinidog yn ystod ei ymweliad.

Dywedodd Pennaeth Ysgol Gynradd yr Eglwys Newydd, Ann Griffin:

“Rydyn ni wrth ein bodd cael chwarae rhan mor amlwg yn y cynllun cyffrous a phwysig iawn hwn.

“Yn ogystal â gwneud ein ffyrdd yn fwy diogel, bydd gostwng y terfyn cyflymder yn helpu hefyd i annog dulliau teithio gwyrddach eraill, fel cerdded a beicio.

“Mae teithio llesol yn rhan amlwg o’r cwricwlwm yn ein hysgol ac mae’n plant yn chwarae rhan amlwg yn annog pobl eraill i ddewis teithio llesol a dulliau mwy cynaliadwy.”

© PICTURE BY PATRICK OLNER 07958 546063/www.tallandshort.co.uk

Dywedodd Aelod o Gabinet Cyngor Caerdydd dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cyng Caro Wilde:

“Fel cyngor, rydym wedi gosod terfyn cyflymder o 20mya ymhob rhan o’r ddinas i’r de o’r A48 ers sawl blwyddyn bellach.

© PICTURE BY PATRICK OLNER 07958 546063/www.tallandshort.co.uk

“Mae arafu cerbydau yn ein hardaloedd preswyl yn gam positif i’n cymunedau lleol ac mae’r rhan fwyaf o’r bobl yn ei gefnogi.  Mae ymchwil yn dangos bod arafu cerbydau mewn ardaloedd preswyl yn gostwng nifer a difrifoldeb damweiniau ffyrdd, yn creu cyfleoedd gwell i bobl gerdded a beicio, yn gwneud ein strydoedd yn iachach ac yn gwella’r amgylchedd i bawb.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle