Mewn cyfarfod rhithiol o’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a gynhaliwyd ar 10 Mawrth 2022, rhoddwyd cydnabyddiaeth i’r Athro Ian Roffe am ei wasanaeth fel aelod lleyg o’r Pwyllgor am bron i 10 mlynedd rhwng 2012 a 2022.
Cyflwynwyd plac iddo ar ddydd Gwener 11 Mawrth gan Gadeirydd y Pwyllgor, y Cynghorydd Elizabeth Evans, a ddywedodd: “Mae Ian wedi bod yn aelod gwerthfawr iawn o’n pwyllgor ers dros ddeng mlynedd, ac rydym wedi elwa’n fawr o’i brofiad o waith archwilio a llywodraethu. Fel y Cadeirydd, rwyf wedi mwynhau perthynas waith agos gydag Ian ac rwyf bob amser wedi gwerthfawrogi ei gyngor cadarn. Rwy’n credu y gallaf siarad ar ran y pwyllgor cyfan wrth fynegi ein diolch am ei gyfraniad.”
Mae tri aelod annibynnol newydd, Alan Davies, Caroline Whitby a Liam Hull wedi’u penodi i’r Pwyllgor o 5 Mai 2022 ymlaen.
Eifion Evans yw Prif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion. Dywedodd: “Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi elwa o ddegawd o gyngor ac ystyriaethau a ddarparwyd gan yr Athro Roffe. Croesawn aelodau newydd y pwyllgor, a bydd eu mewnbwn i swyddogaeth y Pwyllgor yn cael ei werthfawrogi’n fawr.”
Mae Pwyllgorau Llywodraethu ac Archwilio awdurdodau lleol yn bodoli i roi sicrwydd annibynnol i’r rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu ar ddigonolrwydd y fframwaith rheoli risg, yr amgylchedd rheoli mewnol a chywirdeb y prosesau adrodd ariannol a llywodraethu blynyddol. Maent yn angenrheidiol i fodloni’r gofynion ehangach o ran rheolaeth fewnol a gofynion ariannol cadarn, sy’n ddisgwyliad teg gan y cyhoedd ar gyfer eu haelodau etholedig.
Y Cynghorydd Paul Hinge yw Cadeirydd Cyngor Sir Ceredigion. Dywedodd: “Ein diolch diffuant i’r Athro Roffe, sydd wedi rhoi o’i amser a defnyddio ei brofiad helaeth wrth gyfrannu at waith y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Wrth iddo adael y pwyllgor, rydym yn croesawu’r aelodau lleyg newydd i’r pwyllgor pwysig hwn ac yn dymuno’n dda iddynt yn y gwaith y byddant yn ei wneud.”
Ar hyn o bryd mae’r Pwyllgor yn cynnwys 6 Chynghorydd Sir ac 1 Aelod Lleyg ond, er mwyn cydymffurfio â deddfwriaeth ddiweddar, o 5 Mai 2022 ymlaen bydd yn cynnwys 6 Chynghorydd Sir a 3 Aelod Lleyg.
Mae rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor, gan gynnwys y rhestr o gyfarfodydd, adroddiadau ac agendâu ar gael ar wefan y Cyngor: https://cyngor.ceredigion.gov.uk/mgCommitteeDetails.aspx?ID=147&LLL=0.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle