Os ydych chi’n teimlo’n arbennig o greadigol y Pasg hwn, mae gan Elusennau Iechyd Hywel Dda’r gweithgaredd i chi gyda Chystadleuaeth Boned Pasg 2022!
Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol y GIG ar gyfer Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion, yn cynnig gweithgaredd sy’n ystyriol o deuluoedd y gall pawb gymryd rhan ynddo. Ac yn anad dim, bydd cyfranogwyr hefyd yn helpu i wella profiad staff a chleifion ar draws y rhanbarth.
Mae’r gystadleuaeth yn cynnig gwobrau i wahanol grwpiau oedran ac nid oes unrhyw gyfyngiadau ar bwy all gymryd rhan. Nid oes neb yn rhy ifanc nac yn rhy hen i gymryd rhan, cael hwyl, a gwneud eu rhan dros eu helusen GIG leol!
Gall cyfranogwyr gystadlu am £2 yn unig a byddant yn addurno Boned Pasg neu het, neu gallant ddewis addurno un o dri thempled het.
Gellir gwneud taliadau trwy’r dudalen rhoi ar-lein bwrpasol:
https://hyweldda.enthuse.com/cf/hywel-dda-easter-bonnet, yna gofynnir i gyfranogwyr anfon llun o’u ceisiadau atom: fundraising.hyweldda@wales.nhs.uk.
Daw’r gystadleuaeth i ben ar 12 Ebrill 2022. Cyhoeddir yr enillwyr ar 13 Ebrill 2022 a bydd y cynigion yn cael eu harddangos ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol yr elusen.
Dywedodd Katie Hancock, Swyddog Codi Arian Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Byddem wrth ein bodd pe bai cymaint o bobl â phosibl yn cymryd rhan yn ein Cystadleuaeth Boned Pasg 2022. Nid oes cyfyngiad ar ba mor wyllt a gwallgof y gall y bonedau fod – gallwch ddefnyddio hetiau, capiau neu drilbies ar gyfer cynigion cwbl unigryw. Byddwn yn rhannu lluniau ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, a gobeithiwn y bydd pawb sy’n cymryd rhan yn cael amser llawn hwyl!”
Mae manylion llawn ar gael yma https://hyweldda.enthuse.com/cf/hywel-dda-easter-bonnet, neu trwy e-bostio Katie.Hancock3@nhs.wales.uk neu ffonio 07816 080608.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle