Doedd y tywydd gwyntog yn ddim yn ddigon i gadw ymwelwyr draw o Ffair y Gwanwyn yn Llys-y-frân dros y penwythnos. Daeth dros 1,000 i grwydro a mwynhau’r crefftau, celf, tlysau, bwyd, dillad ac addurniadau i’r cartref oedd ar werth.
Diolch i’w hamrywiaeth o roddion wedi eu personoleiddio, anrhegion addurnol ac addurniadau i’r cartref, cafodd Melissa Seal o Mel Seal Designs benwythnos buddiol dros ben ar ei stondin. Dywedodd Mel ‘Diolch i’r rhai a brynodd eitemau ac a osododd archebion, a diolch i bawb yn Llyn Llys-y-frân a wnaeth y cyfan yn bosibl. Roedd hi’n benwythnos bendigedig.’
Roedd y dewis o nwyddau oedd ar gael yn fendigedig, ac roedd yr ymwelwyr wrth eu bodd ar yr amrywiaeth a’r ansawdd. Bu stondin Jen Miles Art yn boblogaidd dros ben gyda’r ymwelwyr, gyda phrintiau celf gain hynod drawiadol â fframiau o froc môr a gasglodd Jen o draethau Sir Benfro cyn eu hadfer i amgylchynu ei gwaith celf.
Mae Emma Beattie o Dogem Glass yn gwneud ei chreadigaethau o wydr tawdd, o dlysau crog i ddarnau addurnol, a phob un yn brydferth ac yn hollol unigryw. Cafodd Emma benwythnos llwyddiannus yn y ffair a dywedodd bod yr achlysur wedi cael ei drefnu’n dda, bod llawer o feddwl wedi mynd i’r peth a bod y staff yn gyfeillgar ac yn barod iawn eu cymwynas.
Yn sgil llwyddiant Ffair y Gwanwyn, mae cynlluniau ar droed i drefnu Ffeiriau Hydref a Nadolig.
Dros y penwythnos daeth y 100,000fed ymwelydd trwy ddrysau Llys-y-frân. Gwnaeth y garreg filltir yma yn ystod y wyth mis cyntaf oes y ganolfan ymwelwyr newydd y penwythnos yn fwy arbennig byth!
Yn ystod y cyfnod hwn, mae Llys-y-frân wedi datblygu ei ddarpariaeth gweithgareddau antur gyda chwaraeon dŵr, saethyddiaeth, taflu bwyeill, crazi-bugz a’r wal ddringo newydd. Gyda mynediad am ddim a thâl parcio o gwta £3 y diwrnod, mae’r safle’n cynnig digonedd o weithgareddau am ddim hefyd. Mae yna lwybrau cerdded a beicio, trac sgiliau a phympio, a llwybrau beicio mynydd wedi eu graddio sydd heb eu hail, oll i’w reidio am ddim. Mae’r maes chwarae antur wedi denu adolygiadau penigamp gan ein hymwelwyr iau, ac mae Caffi Glan y Llyn yn denu ymwelwyr nôl drosodd a thro i fwynhau ei fwydlen ddeniadol sy’n cynnig bwyd o safon uchel a golygfeydd godidog dros y llyn.
Gyda’r gwanwyn ar ei ffordd, mae staff canolfan ymwelwyr Llys-y-frân yn edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr hen a newydd i’r Llyn. Disgwylir i’r tymor chwaraeon dŵr fod yn llwyddiant aruthrol wrth i’r Rheolwr Gweithgareddau newydd, Hope Filby, roi ei chynlluniau ar gyfer y ganolfan chwaraeon dŵr a gweithgareddau awyr agored ar waith. Fel cyn-aelod o Fad Achub Cricieth ac un sydd wrth ei bodd yn yr awyr agored, mae Hope wedi bod yn ddigon ffodus i gael gweithio mewn sawl canolfan gweithgareddau awyr agored gan ddarparu amrywiaeth o weithgareddau awyr agored fel hwylio, padlo a dringo. By Hope yn cydweithio’n agos â chanolfannau ledled Cymru’n ddiweddar er mwyn datblygu nofio dŵr agored, ac rydyn ni’n llawn cyffro am y wybodaeth a’r profiad a ddaw gyda hi i Lys-y-frân.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle