MAE gwaith wedi cychwyn ar brosiect cyffrous gwerth miliynau o bunnoedd Pentre Awel yn Llynnoedd Delta.
Dechreuodd y gwaith o glirio’r safle ac archwilio’r tir yr wythnos hon wrth i’r contractwr Bouygues UK ddechrau ar Barth Un y datblygiad cyffrous hwn – y cyntaf o’i fath yng Nghymru a fydd yn dwyn ynghyd arloesedd gwyddor bywyd, gofal iechyd cymunedol, a chyfleusterau hamdden modern ar safle arfordirol 83 erw.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn arwain y gwaith o gyflawni’r cynllun mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a phrifysgolion a cholegau lleol, fel rhan o Fargen Ddinesig Bae Abertawe, sy’n werth £1.3 biliwn.
Bydd Pentre Awel yn cael ei ddatblygu mewn pedwar parth – bydd Parth Un yn elwa ar dros £70 miliwn o fuddsoddiad gan y sector cyhoeddus i ddarparu manteision cymdeithasol ac economaidd trawsnewidiol i bobl yn y rhanbarth.
Amcangyfrifir bydd y datblygiad wedi’i gwblhau yn 2024, a bydd yn cynnwys canolfan hamdden o’r radd flaenaf gwerth £27 miliwn; pwll hydrotherapi gwerth £1.3miliwn; gofod addysg, ymchwil a datblygu busnes; canolfan ymchwil a darpariaeth glinigol gyda threialon clinigol ar lefel gymunedol, a chanolfan sgiliau llesiant sy’n darparu hyfforddiant iechyd a gofal.
Yr wythnos hon, mae Cynghorwyr wedi cael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd cam cyntaf y contract dylunio ac adeiladu dau gam a ddyfarnwyd i Bouygues UK, gan gynnwys costau manwl i sicrhau fforddiadwyedd yn ogystal â gwaith clirio safle ac archwilio i fireinio’r dyluniad.
Mae trafodaethau ar y gweill hefyd gyda thenantiaid i ddylunio a datblygu cyfluniadau mewnol.
Mae’r Cyngor a Bouygues UK bellach yn ymgysylltu â chyflenwyr a masnachwyr lleol i dynnu sylw at ystod enfawr o gyfleoedd i fod yn rhan o’r gwaith o adeiladu Parth Un, a bydd yn cynnal y cyntaf o nifer o ddigwyddiadau ‘cwrdd â’r prynwr’ ym Mharc y Scarlets ar 30 Mawrth.
Mae gwaith ar y gweill hefyd i ymgysylltu â’r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol, ysgolion, colegau, prifysgolion, ac asiantaethau cyflogaeth lleol i sicrhau manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant i bobl leol yn ystod y cyfnod adeiladu.
Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin a’r Aelod Cabinet dros Adfywio: “Mae’r contract hwn, sy’n un o’r ymarferion tendr uchaf ei werth y mae’r Cyngor erioed wedi ymgymryd ag ef, yn rhoi ffocws allweddol ar werth cymdeithasol i sicrhau y bydd pobl leol a busnesau yn elwa ar y manteision.
“Mae’n wych gweld cynnydd da yn cael ei wneud ar y cam cyn cychwyn wrth i’r gwaith rhagarweiniol ddechrau ar Barth Un ar y safle, dyluniadau newydd yn cael eu datblygu gyda mewnbwn tenantiaid y dyfodol, a’r cyntaf o lawer o ddigwyddiadau i ymgysylltu â chyflenwyr a busnesau lleol.
“Rydyn ni’n ddiolchgar i Bouygues UK am ddod nôl aton ni mor gyflym gyda chostiadau manwl, o gofio’r ansefydlogrwydd parhaus yn y diwydiant adeiladu o ganlyniad i ddigwyddiadau’r byd.
“Mae Pentre Awel yn brosiect trawsnewidiol, ac rydyn ni’n falch bod pobl leol eisoes yn dechrau gweld y manteision.”
Mae prosiect cyffrous Pentre Awel yn cynnwys cyfleusterau gofal ac adsefydlu corfforol integredig, canolfan sgiliau llesiant a fydd yn canolbwyntio ar hyfforddiant iechyd a gofal, a chanolfan darpariaeth glinigol i ddarparu gofal amlddisgyblaeth a chanolfan hamdden o’r radd flaenaf, a llecynnau yn yr awyr agored wedi’u tirlunio ar gyfer cerdded a beicio.
Mae gwesty, ystod o dai cymdeithasol a fforddiadwy, llety byw â chymorth, a chartref nyrsio yn yr arfaeth ar gyfer camau dilynol y cynllun.
Gydag addewid i greu tua 1,800 o swyddi dros 15 mlynedd a rhoi hwb i’r economi leol o tua £467 miliwn, mae’n cael ei gyflawni gan Gyngor Sir Caerfyrddin mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Prifysgolion a Cholegau. Mae Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth wedi cael ei lofnodi rhwng Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Abertawe a Choleg Sir Gâr i ddarparu cyrsiau ar y safle. Prifysgol Caerdydd fydd y partner strategol ar gyfer darparu arloesedd a busnes ar y safle.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle