Mae paratoadau ar y gweill i agor hwb gwefru cerbydau trydan newydd, y cyntaf o’i fath yng Nghymru, yn Cross Hands.
Disgwylir i’r hwb gwefru cyflym iawn sydd wedi’i lleoli oddi ar yr A48 agor ddiwedd y mis hwn a bydd yn darparu pedwar pwynt gwefru cyflym 50 cilowat ac un pwynt gwefru cyflym 150 cilowat.
Bydd y peiriannau gwefru yn ffynhonnell ynni glân ac yn helpu i leihau’r defnydd o’r grid cenedlaethol. Ariennir y prosiect drwy Gronfa Cerbydau Allyriadau Isel Iawn Llywodraeth Cymru.
Daw hyn wythnosau’n unig ar ôl i Gyngor Sir Caerfyrddin lansio ei Strategaeth Seilwaith Cerbydau Trydan deng mlynedd.
Mae’r Strategaeth yn nodi gweledigaeth i annog a hyrwyddo datblygiad seilwaith sy’n angenrheidiol i alluogi gweithwyr, trigolion, cymunedau, ymwelwyr, busnesau a sefydliadau eraill i ddefnyddio Cerbydau Trydan fel rhan o’u trefn ddyddiol.
Mae’r strategaeth hefyd yn amlinellu ffyrdd y bydd y cyngor yn annog ac yn cefnogi’r defnydd o Gerbydau Trydan ar draws pob sector.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros yr Amgylchedd, fod y cyngor yn datblygu ac yn hyrwyddo rhwydwaith o bwyntiau gwefru trydan er mwyn diogelu rhwydwaith trafnidiaeth y sir yn y dyfodol yn ogystal â chyfrannu at dargedau lleihau llygredd lleol a byd-eang.
Dywedodd: “Rydym yn falch iawn o allu agor yr hwb gwefru cyflym iawn hwn, sef y cyntaf o’i fath yng Nghymru. Rydym hefyd yn falch o lansio ein Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydan. Rydym yn cydnabod y cyfleoedd y mae cerbydau trydan yn eu creu o ran cefnogi ein huchelgeisiau datgarboneiddio a nodir yn ‘Prosiect Zero Sir Gâr’, ac wrth i nifer y cerbydau trydan ar ein ffyrdd gynyddu’n barhaus, mae angen i ni sicrhau bod gan yrwyr fynediad i rwydwaith cydlynol o seilwaith gwefru cerbydau trydan ledled y sir.
Rydym yn gweithio’n agos gyda phartneriaid a Llywodraeth Cymru i nodi meysydd newydd lle bydd darpariaeth ychwanegol yn fuddiol, nid yn unig ar hyd y rhwydwaith ffyrdd strategol, ond hefyd mewn cyrchfannau ac ar gyfer mentrau penodol fel y ‘Deg Tref’. Rydym yn parhau’n ymrwymedig i gefnogi’r gwaith o ddatblygu seilwaith cerbydau trydan dibynadwy o ansawdd uchel i breswylwyr, busnesau ac ymwelwyr Sir Gaerfyrddin.
Mae’r strategaeth hon yn ein cefnogi yn y nodau hyn ac yn helpu i gynllunio a gosod targedau ar gyfer y 10 mlynedd nesaf.”
Mae’r cynllun diweddaraf hwn yn rhan o ymdrechion parhaus Cyngor Sir Caerfyrddin i gefnogi cynaliadwyedd wrth iddo ddod yn awdurdod lleol di-garbon net erbyn 2030. Mae’r cyngor eisoes wedi gosod 28 o bwyntiau gwefru cyflym ar draws y sir a bydd 15 arall yn cael eu hychwanegu erbyn diwedd mis Mawrth.
Yn gynharach eleni, lansiodd y cyngor ymgyrch newydd Prosiect Zero Sir Gâr i gyd-fynd â COP26 – uwchgynhadledd fyd-eang ar gyfer gweithredu er budd yr hinsawdd – sy’n tynnu sylw at yr ymdrechion sy’n cael eu gwneud i fod yn garbon niwtral.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle