Pobl o bob cwr o’r byd yn edrych ar yr hyn sydd gan Sir Gaerfyrddin i’w gynnig

0
207
Llandeilo Cwtch

MAE bron i hanner miliwn o bobl wedi ymweld â gwefan dwristiaeth Sir Gaerfyrddin yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i chwilio am lefydd i aros, pethau i’w gwneud, ac i bori drwy’r ystod gynyddol o gynnyrch lleol sy’n cael ei hyrwyddo ar-lein.

Darganfod Sir Gâr yw gwasanaeth gwybodaeth i dwristiaid pwrpasol Cyngor Sir Caerfyrddin, ac mae mwy a mwy o bobl yn ymweld â’r wefan i gael gwybod am yr amrywiaeth o bethau y gallant eu gweld a’u gwneud wrth ymweld â’r ardal.

Mae nifer y bobl sy’n ymweld â www.darganfodsirgar.com wedi treblu ers 2019 ac mae pobl o America, Tsieina ac Awstralia ymhlith y rhai sy’n cyfrannu at dros 1.2 miliwn o ymweliadau â thudalennau y flwyddyn.

Yn ystod y mis diwethaf yn unig, roedd dros 28,000 o bobl wedi ymweld â’r wefan gyda bron i 71,000 o ymweliadau â thudalennau ar draws y wefan.

Daw’r nifer cynyddol o ymweliadau â’r wefan yn sgil ymgyrch dwristiaeth lwyddiannus yn ystod y gaeaf sydd wedi’i nodi gan ysgrifenwyr teithio a blogwyr o bob cwr o’r byd.

Thema’r ymgyrch oedd ‘Cwtsho Lan yn Sir Gâr’ ac roedd yn cynnwys rhestr o 10 syniad ar gyfer gwyliau byrion clyd, gan gynnwys cwtsho lan dan y sêr ac atyniadau sy’n croesawu cŵn i bobl gael cwtsho lan gyda’u cŵn.

Dywedodd tîm twristiaeth y cyngor ei fod yn galonogol gweld y diddordeb cynyddol yn Sir Gaerfyrddin fel cyrchfan gwyliau a chyrchfan i ymwelwyr, o gofio bod y diwydiant wedi cael dwy flynedd mor anodd.

Mae’r tîm bellach yn galw ar fusnesau lleol i fanteisio ar y gynulleidfa sy’n tyfu. Gall darparwyr llety, trefnwyr digwyddiadau, cynhyrchwyr lleol a manwerthwyr i gyd lwytho gwybodaeth i’r wefan am ddim, gan sicrhau bod eu busnes yn cael sylw gan ymwelwyr o bob cwr o’r byd.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, sef yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Nid yw’n syndod ein bod yn cyrraedd cynulleidfa mor eang – rydym yn gwybod bod gennym rywbeth unigryw i’w gynnig ac mae’r tîm twristiaeth wedi bod yn gweithio’n galed i rannu’r neges am Sir Gaerfyrddin.

“Rydym newydd gwblhau ymgyrch dwristiaeth lwyddiannus iawn yn ystod y gaeaf ac o ganlyniad rydym wedi cael llawer iawn o sylw yn y cyfryngau ac ar-lein ac mae hynny’n amlwg yn dechrau troi’n archebion.

“Mae’r diwydiant twristiaeth a lletygarwch wedi cael ei daro’n galed gan Covid wrth i gyfyngiadau symud gael effaith enfawr ar fasnach ac mae mor galonogol gweld bod pethau’n dechrau gwella.

“Mae twristiaeth yn rhan hanfodol o economi Sir Gaerfyrddin.  Mae pob ymwelydd yn helpu i roi hwb i’n busnesau lleol, gan gynnwys darparwyr llety, caffis, bwytai, siopau, atyniadau a gwasanaethau – mae’r buddsoddiad hwnnw’n parhau i dyfu a gwneud gwahaniaeth yn lleol.

“Ond y peth pwysig i’w gofio yw ein bod yn awyddus i annog pobl Sir Gaerfyrddin i fwynhau’r lleoedd gwych sydd gennym yma ar stepen ein drws yn ogystal â denu twristiaid o’r tu allan i’r ardal.

“Treuliwch eich amser rhydd yn gwneud rhywbeth gwahanol, ewch i ymweld â rhywle newydd, sbwyliwch eich hun i gynnyrch lleol – yn ogystal â chael profiad pleserus, byddwch hefyd yn helpu i gefnogi pobl a busnesau lleol.”

Ewch i www.darganfodsirgar.com er mwyn cael cannoedd o syniadau ysbrydoledig o lefydd i aros, pethau i’w gwneud, lleoedd i grwydro, canllaw cynhwysfawr ‘Be Sy’ Mlaen a thros gant o fanwerthwyr lleol.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle