Rhoi sylw i Arwyr Chwaraeon 

0
313

Mae arwyr chwaraeon ledled y sir wedi cael cydnabyddiaeth am eu llwyddiannau a’u cyfraniadau i chwaraeon.

Mae Gwobrau Chwaraeon Actif Sir Gaerfyrddin yn cydnabod unigolion a grwpiau sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol yn eu maes yn ystod 2019-2021 a’r pandemig.

Mewn seremoni fawreddog a gynhaliwyd yn Theatr y Ffwrnes neithiwr (nos Iau), anrhydeddwyd enillwyr o 11 categori gan gynnwys Chwaraewr y Flwyddyn, Chwaraewraig y Flwyddyn a Phersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn. Yn y 12fed categori sef yr Oriel Anfarwolion Chwaraeon croesawyd dau aelod newydd.

Mae’r gwobrau, a oedd yn cael eu cynnal eleni am yr 22ain flwyddyn, yn cael eu trefnu gan Gyngor Sir Caerfyrddin i dynnu sylw at bwysigrwydd chwaraeon yn y rhanbarth ac i arddangos llwyddiannau chwaraeon ledled y sir.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Mae’r gwobrau blynyddol yn cydnabod ac yn gwobrwyo’r bobl hynny sydd wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol ac wedi dangos cyflawniadau rhagorol yn eu maes boed hynny fel unigolyn, hyfforddwr, gwirfoddolwr neu dîm chwaraeon mewn chwaraeon i bobl anabl a heb anabledd, proffesiynol ac amatur. Mae wedi bod yn gwpl o flynyddoedd eithriadol o heriol i bawb yn sgil y pandemig a’i gyfyngiadau ond er gwaethaf y rhwystrau hyn, mae’r bobl hyn wedi llwyddo i gyrraedd cynulleidfaoedd mewn ffyrdd arloesol gan barhau i’w hysbrydoli nhw i fod yn egnïol yn ystod y cyfnod clo.

Cyflwynwyd y digwyddiad gan Nigel Owens, Cyn-hyfforddwr Undeb Rygbi Cymru a MIND Llanelli a Chaerfyrddin oedd yr elusen enwebedig.

Categorïau ac Enillwyr

Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn

Frank Morgan – Athletau

Chwaraewraig Ifanc y Flwyddyn

Emily Shawyer – Saethu

Gwirfoddolwr Chwaraeon Ifanc y Flwyddyn

Josh Edwards – Pêl-droed

Gwirfoddolwr Chwaraeon y Flwyddyn

Geraint Burrows – Pêl-droed

Hyfforddwr Chwaraeon Cymunedol y Flwyddyn

Rob Campion – Athletau

Hyfforddwr Perfformiad o Safon Uchel y Flwyddyn

David Thomas – Gymnasteg

Gwobr Gwasanaeth Rhagorol i Chwaraeon

Dave Rayson – Pêl-droed

Tîm Ifanc y Flwyddyn

Criced Dan 17 Crwydriaid Caerfyrddin – Criced

Tîm y Flwyddyn

Karate Sir Gaerfyrddin – Karate

Clwb Chwaraeon Cymunedol y Flwyddyn

Clwb Pêl-droed Rhydaman – Pêl-droed

Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn

Johnny Clayton – Dartiau

Oriel Anfarwolion Chwaraeon Sir Gaerfyrddin

Robert Croft MBE – Criced

Dr Helydd Davies MBE


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle