Diolch i roddion hael, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi ariannu adnoddau newydd i helpu pobl sydd mewn perygl o ddiffyg maethiad ledled y tair sir, sef Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.
Yn ddiweddar, mae Gwasanaeth Maetheg a Deieteg Cymunedol Hywel Dda wedi datblygu tudalen we er mwyn i gleifion, eu gofalwyr, ac aelodau o’u teuluoedd allu sgrinio eu hunain am ddiffyg maethiad, gan ddefnyddio cyfrifiannell risgiau.
Yna gall y rhai yr ystyrir eu bod yn wynebu risg uchel gael mynediad at adnoddau maetheg a deieteg i’w helpu i wella eu maethiad a’u hydradiad.
Mae’r elusen wedi talu i gael posteri, taflenni a deunyddiau cyhoeddusrwydd eraill sy’n cynnwys gwybodaeth a chod QR wedi’u creu i fynd â phobl yn syth i’r wefan.
Dywedodd Paul Makin, Arweinydd Clinigol Cymunedol ym maes Cymorth Maethiad: “Ar gyfer cleifion yr ystyrir eu bod yn wynebu risg uchel o ddiffyg maethiad, mae angen ymyriad cynnar. Mae diffyg maethiad yn gysylltiedig â risg uwch o gwympo, statws gwybyddol diffygiol, a llai o weithrediad yn y cyhyrau.
“I ddechrau bydd yr adnoddau ar gael mewn ysbytai, ond yn y pen draw y nod yw gosod posteri a thaflenni mewn fferyllfeydd, hybiau cymunedol a chanolfannau cymunedol hefyd.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, sef elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda, ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a gawn.”
I gael rhagor o fanylion am yr elusen a’r modd y gallwch helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/elusennau-iechyd-hywel-dda/
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle