Cost ôl-groniad gwaith atgyweirio ffyrdd lleol yn fwy na £600 miliwn yng Nghymru,
yn ôl arolwg ALARM

0
237

Mae cost ôl-groniad* gwaith atgyweirio ffyrdd lleol yng Nghymru nawr yn £640 miliwn, gyda chwyddiant cynyddol yn
achosi costau mwy fyth, yn ôl arolwg Cynnal a Chadw Ffyrdd Awdurdodau Lleol (ALARM) Blynyddol eleni.

Mae’r arolwg ALARM, a gyhoeddwyd heddiw (22 Mawrth, 2022) gan yr Asphalt Industry Alliance (AIA), yn dwyn sylw at
raddfa’r broblem sy’n gwaethygu a’r hyn y mae peirianwyr priffyrdd yn ei wynebu, gan orfod gwneud dewisiadau anodd
ynglŷn â chadw ffyrdd lleol yn agored ac yn ddiogel ynteu gwella cyflyrau yn gyffredinol.

Er gwaethaf cynnydd mewn cyllidebau cyfartalog cynnal a chadw priffyrdd (cynnydd o 3% ar 2020/21), a mwy o hynny’n
cael ei fuddsoddi yn y gerbytffordd ei hun, mae cost ôl-groniad gwaith atgyweirio cerbytffyrdd wedi cynyddu rhywfaint i
swm cyfwerth â £640 miliwn – neu fwy na £32,000 fesul pob milltir o ffyrdd lleol.

Meddai Rick Green, Cadeirydd AIA: “Mae gan dimau priffyrdd awdurdodau lleol gyfrifoldeb cyfreithiol i gadw ein ffyrdd yn
ddiogel, ond nid oes ganddyn nhw’r arian i wneud hynny mewn ffordd gost-effeithiol, ragweithiol ar draws y rhwydwaith
cyfan.

“Yn gynharach y mis yma, fe gadarnhaodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi clustnodi £500 miliwn ar gyfer gwaith
uwchraddio ffyrdd mawr yn y rhwydwaith ffyrdd strategol ond nid yw wedi gwneud ymrwymiad o’r fath ar gyfer ffyrdd
lleol, sy’n cyfrif am 95% o’r rhwydwaith yng Nghymru.”

Mae eleni’n gweld y 27ain arolwg ALARM yn olynol, gan adrodd ar gyllid a chyflyrau ffyrdd lleol ar sail gwybodaeth y mae’r
rheini sy’n gyfrifol am eu cynnal a’u cadw’n ei darparu’n uniongyrchol.

Mae darganfyddiadau arolwg ALARM 2022, sydd a wnelo â blwyddyn ariannol 2021/22, yn dangos y canlynol yng
Nghymru:

• Byddai awdurdodau lleol wedi bod angen £58.4 miliwn ychwanegol y llynedd, dim ond i gyrraedd y targed o ran
cyflyrau eu ffyrdd eu hunain, cyn hyd yn oed meddwl am fynd i’r afael â’r ôl-groniad o waith atgyweirio
• Mae strwythur 11% o’r rhwydwaith lleol – 2,200 milltir – mewn cyflwr gwael ac mae’n bosibl y bydd angen ei ailadeiladu
yn ystod y pum mlynedd nesaf
• Yn ôl y mwyafrif o awdurdodau lleol (50%), roedd cyllid cynnal a chadw priffyrdd yn lleihau o’r naill flwyddyn i’r
nesaf
• Gwariwyd £5.2 miliwn ar lenwi tyllau
• Dim ond unwaith ym mhob 54 mlynedd ar gyfartaledd y mae ffyrdd lleol yn cael wyneb newydd
Ychwanegodd Rick Green: “Mae’r cysylltiad rhwng tanfuddsoddi parhaus a chyflwr ffyrdd lleol yn glir. Ni fydd modd
cyflawni uchelgeisiau’r wlad i annog teithio llesol, yn ogystal â chwtogi ar wastraff ac allyriadau carbon, heb ddull o
weithredu yn y tymor byr sy’n gallu cyflenwi rhwydwaith ffyrdd lleol o’r radd flaenaf.

“Er mwyn sicrhau bod gennon ni rwydwaith ffyrdd lleol diogel, cydnerth a chynaliadwy, mae dal angen dull tymor hir
o weithredu a buddsoddiad sylweddol. Mae ALARM 2022 yn dangos mai’r hyn sydd ei angen yng Nghymru yw £60.3
miliwn y flwyddyn yn ychwanegol dros y degawd nesaf i fynd i’r afael ag ôl-groniad gwaith atgyweirio a chaniatáu i
dimau priffyrdd awdurdodau lleol wella cyflwr y rhwydwaith i’r graddau y gellid yna’i gynnal a’i gadw’n gost-effeithiol wrth
symud ymlaen.”

Ychwanegodd Jack Cousens, Pennaeth Polisi Ffyrdd yn yr AA : “Bob blwyddyn, mae’r ddadl ynglŷn â chynnal a chadw
ffyrdd yn dirywio, gyda’r awdurdodau lleol a’r Llywodraeth yn beio’i gilydd a’r ddau yn hawlio mai cyfrifoldeb y llall yw
datrys popeth. Mae’n rhaid i lywodraeth leol a’r llywodraeth genedlaethol eistedd o amgylch y bwrdd a llunio cynllun
wedi’i ariannu’n llawn a fydd yn helpu i wneud ein ffyrdd yn fwy diogel. Mae nawr angen canolbwyntio’r cyllid sydd ar gael
ar gyfer ffyrdd ar yr angen mwyaf sylfaenol: trwsio’r ffyrdd – er budd gyrwyr, beicwyr a cherddwyr. Er gwaethaf sôn am
godi’r gwastad, fuasai’r rheini sy’n defnyddio’r ffyrdd wir yn hoffi gweld y ffyrdd yn cael eu gwastatáu”.

Bydd yr arolwg ALARM llawn ar gael i’w lawrlwytho o 00.01 awr ddydd Mawrth 22 Mawrth trwy fynd i
www.asphaltuk.org

  • Mae’r ôl-groniad yn disgrifio’r swm y byddai ei angen – fel un cost unwaith ac am byth i ddal i fyny – i wella cyflwr y rhwydwaith i’r
    graddau a fyddai’n caniatáu ei reoli’n gost-effeithiol ac yn gynaliadwy wrth symud ymlaen, fel rhan o ddull rhagweithiol o fynd ati i reoli
    asedau.

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle