Heddiw, mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi canmol ymdrechion aruthrol “Tîm Cymru” i groesawu ffoaduriaid Wcráin i Gymru.
Mae cynghorau lleol, y trydydd sector, y GIG a Llywodraeth Cymru wedi bod yn cydweithio’n agos i sefydlu’r trefniadau a’r gwasanaethau ar gyfer Wcreiniaid sy’n ffoi rhag y gwrthdaro.
Bydd Cymru yn gweithredu fel uwch-noddwr o dan gynllun Cartrefi i Wcráin Llywodraeth y DU o 26 Mawrth. Dechreuodd y cynllun baru’r noddwyr unigol cyntaf â phobl sy’n ffoi o Wcráin ddydd Gwener.Wrth siarad am ddull gweithredu unigryw “Tîm Cymru”, dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt:
“Mae Cymru yn Genedl Noddfa. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod yna groeso cynnes i bobl sy’n ffoi rhag trais a gwrthdaro Wcráin.
“Rydyn ni wedi bod yn gweithio’n agos iawn gyda’n partneriaid yn y trydydd sector, yr Urdd, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y GIG i wneud yn siwr bod y gefnogaeth iawn ar gael ar unwaith i bobl sy’n cyrraedd o Wcráin.
“Yn dilyn llwyddiant y dull partneriaeth o weithredu cynllun adsefydlu dinasyddion Affganistan, mae’n destun balchder inni gael partneru unwaith eto â’r Urdd i agor un o ganolfannau croesawu cyntaf Cymru i ffoaduriaid Wcráin. Fe fydd y gwasanaethau ategol hanfodol hynny ar gael sydd eu hangen ar bobl sy’n cyrraedd o ganol rhyfel.”
Wrth dynnu sylw at y camau y mae Cymru wedi’u cymryd dros y saith diwrnod diwethaf er mwyn bod yn uwch-noddwr, ychwanegodd y Gweinidog:
“Ychydig dros wythnos yn ôl, fe gadarnhaodd Prif Weinidog Cymru ein bwriad i fod yn uwch-noddwr o dan gynllun Cartrefi i Wcráin Llywodraeth y DU.
“Ers hynny, mae gwaith aruthrol wedi’i wneud i sicrhau llety a gwasanaethau cymorth, ac i baratoi i’r cynllun ddechrau ar 26 Mawrth.
“Bydd y ffaith ein bod yn uwch-noddwr yn cyflymu’r broses o alluogi Wcreiniaid sydd am ddod i Gymru i wneud hynny’n gyflym, heb orfod poeni am brofi bod ganddyn nhw gysylltiad â Chymru cyn gallu dod.”
Dywedodd Sian Lewis, prif weithredwr yr Urdd:
“Mae plant a phobl Wcráin yn wynebu poen annioddefol a bygythiad i’w bywydau. Yn fuan, bydd un o Wersylloedd yr Urdd yn cael ei drawsnewid i Ganolfan Groeso a lloches tymor byr i 250 o ffoaduriaid o Wcráin. Byddwn fel mudiad ar y cyd gyda’n partneriaid yn croesawu, cefnogi a sicrhau lloches saff llawn cyfeillgarwch a chariad.
Hoffai’r Urdd ddiolch o waelod calon i bob disgybl, ysgol a grŵp sydd wedi rhoi eu cyfnod yn y Gwersyll er mwyn cefnogi’r ffoaduriaid yn eu hamser o angen mawr. “
Ychwanegodd y Gweinidog:
“Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud ein gorau glas i gefnogi pobl sy’n ffoi rhag rhyfel Wcráin, ac i ddarparu noddfa a diogelwch yng Nghymru.
“Dw i am dalu teyrnged i gydweithwyr ar draws ein cynghorau a’n byrddau iechyd yng Nghymru sy’n gweithio i sicrhau bod gwasanaethau yn eu lle erbyn i’r ffoaduriaid cyntaf gyrraedd.
“Mae’n dangos ein bod wir yn gweithredu fel tîm yng Nghymru ac yn ailddatgan ein hymrwymiad i fod yn Genedl Noddfa.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle