Y diweddaraf am glinigau galw heibio brechlyn COVID-19

0
294

Bydd canolfannau Brechu Torfol (MVC) ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro ar gau i sesiynau galw heibio ddydd Sadwrn 26 Mawrth oherwydd diweddariad cenedlaethol i’r system gyfrifiadurol a ddefnyddir i gofnodi brechlynnau COVID-19 a roddir.

Bydd apwyntiadau a drefnwyd ar gyfer dydd Sadwrn 26 Mawrth yn dal i gymryd lle felly gofynnir i bobl ag apwyntiadau wedi’u trefnu i barhau i fynychu fel arfer.

Bydd MVC Cwm Cou hefyd ar gau i sesiynau galw heibio ar ôl 2pm ddydd Llun 21 Mawrth a bydd Y Gamfa Wen MVC yn y brifysgol yng Nghaerfyrddin ar gau i sesiynau galw heibio ar ôl 1.30pm ddydd Mercher 23 Mawrth.

Bydd yr MVC gyrru drwodd yng Nghaerfyrddin yn cau’n barhaol 5pm ddydd Mercher 27 Mawrth.

Cynghorir pobl i wirio amseroedd agor clinigau galw heibio cyn teithio am eu brechlyn COVID-19 heb apwyntiad. Mae amseroedd agor galw heibio i’w gweld ar wefan BIP Hywel Dda yma https://hduhb.nhs.wales/covid19-vaccination neu drwy ffonio 0300 303 8322.

Gall pobl sy’n byw yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro sydd â chyfrifoldebau rhiant dros blant 5 i 11 oed nawr drefnu apwyntiad ar gyfer brechlyn COVID-19 cyntaf eu plenty trwy ffonio 0300 303 8322 neu trwy lenwi’r ffurflen gais hon https://forms.office.com/r/Rn7Tifwj6S


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle