Lansio ffilm fer bwerus i ddathlu Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc 2022

0
224
Dyma Fi

Yn rhan o Ddiwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc, a gynhaliwyd ar 16 Mawrth 2022, lansiwyd ffilm fer ar y cyd rhwng pobl ifanc Ceredigion a Chwmni Theatr Arad Goch i ddathlu gwaith gofalwyr ifanc.

Mae Ymddiriedolaeth y Gofalwyr yn diffinio Gofalwr Ifanc fel “rhywun 25 oed ac iau sy’n gofalu am ffrind neu aelod o’r teulu na all, oherwydd salwch, anabledd, problem iechyd meddwl neu ddibyniaeth, ymdopi heb eu cefnogaeth.” Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn awgrymu bod dros 30,000 o Ofalwyr Di-dâl o dan 25 oed yng Nghymru, a bod gan 16% o Ddisgyblion Ysgolion Uwchradd Cymru gyfrifoldebau gofalu. Gall bod yn Ofalwr Ifanc gynnwys cyfrifoldebau fel tasgau ymarferol fel coginio, glanhau a siopa, gofal personol fel helpu rhywun i godi o’r gwely, casglu meddyginiaeth neu ofalu am frodyr neu chwiorydd.

Yn ystod haf 2021, cychwynnodd grŵp o Ofalwyr Ifanc o Geredigion ar brosiect newydd mewn partneriaeth ag Arad Goch. Ymunodd Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion, Uned Gofalwyr Ceredigion a Gweithredu dros Blant ag Arad Goch i greu ffilm fer dan arweiniad pobl ifanc mewn ymgais i addysgu a chodi ymwybyddiaeth o’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn Ofalwr Ifanc.

Bu’r bobl ifanc yn gweithio gydag Arad Goch i greu stori a sgript a ffilmio golygfeydd o amgylch Aberystwyth, cyn golygu, i greu ffilm fer o’r enw ‘Dyma fi’ a lansiwyd ar Ddiwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc 2022.

Cynhyrchwyd y ffilm gan bobl ifanc dan arweiniad cwmni theatr lleol, Arad Goch. Cefnogwyd y prosiect hefyd gan fyfyrwyr drama lleol, a gymerodd ran yn y cynhyrchiad fel actorion ifanc. Mae’r ffilm yn dilyn taith person ifanc sydd â chyfrifoldebau gofalu, gyda’r nod o addysgu a chodi ymwybyddiaeth o’r pwnc.

Mae modd gwylio’r ffilm yma: https://aradgoch.cymru/lansiad-dyma-fi/

Dywedodd Tiffany Davies, Gweithwraig Cymorth Ieuenctid: “Gweithiodd y bobl ifanc yn hynod o galed i gynhyrchu’r ffilm fer bwerus hon, o’r dechrau i’r diwedd. Mae eu creadigaeth yn dangos ychydig o’r hyn y mae Gofalwr Ifanc yn ei wneud o ddydd i ddydd, trwy gyfrwng ffilm. Gobeithiwn y bydd modd defnyddio’r ffilm fer fel adnodd addysgol mewn ysgolion a chlybiau ieuenctid, fel y gallwn ni i gyd ddeall beth mae’n ei olygu i fod yn Ofalwr Ifanc. Dylent oll fod yn falch iawn o’u cyflawniad. Hoffem ddiolch unwaith eto i Arad Goch am gyfle gwych arall a alluogodd y bobl ifanc i ddysgu sgiliau a phrofiadau newydd megis ffotograffiaeth a chynhyrchu.”

Dywedodd Carwyn Blayney, Cyfarwyddwr y Ffilm ar ran Arad Goch: “Roedd y prosiect yn un uchelgeisiol iawn, yn enwedig ceisio ffilmio cymaint o ddeunydd mewn un diwrnod, ond roedd y gofalwyr ifanc i gyd, a’r actorion ifanc ynghlwm â’r prosiect yn hollol wych. Cawson ni ddiwrnod grêt o ffilmio – diwrnod llawn dop, a’r pobl ifanc i gyd wedi delio â’r llwyth gwaith yn grêt. Roedd y gofalwyr ifanc yn dda iawn i rannu syniadau ar ein cyfarfodydd teams yn y misoedd yn arwain tuag at y diwrnod ffilmio, ac yn amyneddgar iawn wrth i ni geisio trefnu prosiect yng nghanol pandemig. Criw hynod dalentog o bobl ifanc!”

I ddysgu mwy am gymorth i Ofalwyr Ifanc yng Ngheredigion, ewch i’r dudalen hon https://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/lles-a-gofal/cymorth-i-ofalwyr/gofalwyr-ifanc/.

Am rhagor o wybodaeth am waith y Gwasanaeth Ieuenctid, ewch i’w tudalennau Facebook, Twitter neu Instagram @GICeredigionYS neu ewch i’r wefan www.giceredigionys.co.uk.

Am fwy o wybodaeth am waith Cwmni Theatr Aradh Goch, ewch i’w gwefan https://aradgoch.cymru/. Ar gyfer ymholiadau ynghylch defnyddio’r ffilm mewn lleoliadau eraill, cysylltwch ag Arad Goch ar 01970 617998 neu post@aradgoch.org i drafod.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle