Y Prif Weinidog yn cyhoeddi’r drydedd goedlan goffa

0
252

Mae’r Prif Weinidog wedi cyhoeddi safle’r drydedd goedlan goffa yng Nghymru yng Nghwmfelinfach yng Nghaerffili.

Mae’r coedlannau coffa’n cael eu creu i gofio am yr holl bobl a fu farw yn ystod y pandemig.

Daw’r cyhoeddiad hwn wrth i Lywodraeth Cymru nodi dwy flynedd ers cyfnod clo cyntaf y pandemig yn 2020.

Mae’r safle yn eiddo i Gyngor Caerffili a hwn fydd trydydd lleoliad y goedlan goffa, gyda safle arall ar Ystâd Erddig yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Wrecsam, a safle a ddewiswyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn Brownhill yn Nyffryn Tywi, Sir Gaerfyrddin.

Bydd y coedlannau coffa hyn yn symbol o gadernid Cymru yn ystod y pandemig, ac yn symbol o adfywio ac adnewyddu wrth i’r coedlannau newydd dyfu.

Y gobaith yw y byddant yn rhywle y gall teuluoedd a ffrindiau gofio am eu hanwyliaid a fu farw.

Bydd y coedlannau hefyd yn rhywle i’r cyhoedd adlewyrchu am y pandemig a’r effaith y mae wedi’i chael ar ein bywydau.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

“Rydyn ni i gyd wedi byw ein bywydau yng nghysgod y pandemig ers dwy flynnedd.

Mae’r pandemig wedi cael effaith ar bob agwedd ar ein bywydau ac mae nifer ohonon ni wedi aberthu llawer.

“Mae gormod o bobl wedi colli aelodau o’r teulu, anwyliaid neu ffrindiau.

“Bydd y coedlannau hyn yn fannau coffa byw a pharhaol er cof am bawb sydd wedi marw. Byddan nhw hefyd yn symbol o’r cryfder y mae pobl Cymru wedi’i ddangos dros y ddwy flynedd ddiwethaf.”

Caiff ffilmiau byr eu dangos ar-lein hefyd o gerdd a ysgrifennwyd yn wreiddiol gan Ifor ap Glyn ar gyfer y Digwyddiad Coffa Cenedlaethol a gynhaliwyd y llynedd, i nodi 12 mis ers dechrau’r pandemig.

Ysgrifennwyd Dod at ein coed yn Gymraeg, neu Tree sensibility yn Saesneg, mewn ymateb i’r cyhoeddiad i blannu coedlannau fel mannau i gofio am y bobl hynny a gollwyd yn ystod y pandemig.

Mae’r Prif Weinidog, Ifor ap Glyn, staff y GIG, gweithwyr hanfodol, gwirfoddolwyr a theuluoedd y rhai a fu farw yn ystod y pandemig, yn cymryd rhan wrth adrodd y gerdd.

Mae’r ffilmiau – un yn Gymraeg a’r llall yn Saesneg – ar gael i’w gwylio ar sianeli cyfryngau cymdeithasol Llywodraeth Cymru.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle