Adfer, Ailosod, Adfywio – cyngor yn gosod ei olygon ar y dyfodol wrth lansio cynllun corfforaethol

0
477

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi lansio cynllun corfforaethol newydd sy’n rhoi pobl a chymunedau yn y canol.

Cafodd ‘Adfer, Ailosod, Adfywio’ ei addysgu gan farn pobl sy’n byw a gweithio yn y fwrdeistref sirol o’r camau cynharaf. Mae’r cynllun terfynol a gymeradwywyd gan y Cabinet ar 28 Chwefror a’i lansio heddiw, yn ganlyniad chwe mis o ymgysylltu ac ymgynghori i sicrhau ei fod yn gydweithrediad rhwng y cyngor, partneriaid, busnesau, preswylwyr ac ymwelwyr â’r fwrdeistref sirol.

Mae’r cynllun yn ymdrin â’r cyfnod 2022 i 2027 ac mae’n amlinellu sut y bydd y cyngor yn ymdrin ag adfer ar ôl pandemig Covid-19 yn y tymor byr, canolig a’r tymor hirach.

Yn ô Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Ted Latham: “Drwy gydol y pandemig, mae’r cyngor, cymunedau, busnesau a phartneriaid wedi gweithio gyda’i gilydd i gefnogi preswylwyr bregus, gwarchod ein GIG a chadw gwasanaethau hanfodol i fynd. Mae’r ysbryd hwn o gydweithio’n un yr ydyn ni eisiau parhau i’w gynnal wrth i ni ddysgu byw gyda Covid-19 a dechrau adfer o’r pandemig, felly roedd hi’n hanfodol cynnwys ein cymunedau wrth ddatblygu Adfer, Ailosod, Adfywio gan fabwysiadu’u barn.

“Fe wnaeth y farn gyfun hon helpu i roi ffurf ar ein cynllun, sy’n amlygu pedwar nod llesiant ar gyfer y cyngor dros y pum mlynedd nesaf, ynghyd â manylion y strategaethau, y rhaglenni a’r gweithgareddau y byddwn ni’n eu rhoi ar waith i’w cyflawni wrth i ni weithio tuag at ein nod o helpu pobl yng Nghastell-nedd Port Talbot i fyw bywydau da. 

“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi helpu i ddatblygu’r cynllun drwy rannu’u barn. Rydyn ni’n awyddus i gynnal yr ymgysylltiad hwn a byddwn ni’n parhau â’r sgwrs wrth i ni symud ymlaen at gyflenwi’r cynllun.” 

Mae’r cynllun corfforaethol newydd yn crynhoi’r cyd-destun y cafodd ei ddatblygu ynddo ac mae’n amlinellu rhaglen newid strategol y cyngor ar gyfer y pum mlynedd nesaf, sy’n cynnwys pedwar nod llesiant:  

  • Pob plentyn yn cael y dechrau gorau mewn bywyd
  • Pob cymuned yn ffynnu ac yn gynaliadwy
  • Ein hamgylchedd, diwylliant a threftadaeth leol yn cael ei fwynhau gan genedlaethau’r dyfodol
  • Mae pobl leol yn sgilgar ac yn gallu cael mynediad i swyddi gwyrdd o ansawdd uchel

Gan barhau yn ysbryd cydweithredu, bydd y cynllun newydd ar gael ar amryw ffurf. Yn ogystal â’r fersiwn llawn, mae fersiwn ‘cynllun ar dudalen’. Hefyd, bydd a fersiwn Hawdd eu Darllen, i gyd yn Gymraeg a Saesneg.

Gellir dod o hyd i’r cynllun ar lein ar: https://www.npt.gov.uk/CynllunCorfforaethol, a dangosir y fersiwn cynllun ar dudalen mewn llyfrgelloedd a gynhelir gan y cyngor ac adeiladau cyhoeddus eraill. I wneud cais am gopi papur neu’r ffurf o’ch dewis chi, anfonwch e-bost at  LetsTalk@npt.gov.uk neu ffoniwch: 01639 763242 / 01639 763677.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle