Datganiad o gefnogaeth i bobl Wcráin

0
213

Mae’r ymosodiad milwrol ar Wcráin yn ystod yr wythnosau diwethaf yn peri pryder mawr ac rydym yn dyst i argyfwng dyngarol yn Ewrop sy’n gwaethygu o ddydd i ddydd.

‘Fel Comisiynwyr ac Ombwdsmon, rydym yn croesawu ymrwymiad y Prif Weinidog i wneud Cymru’n genedl noddfa i bobl ar draws y byd. Mae gan Gymru hanes balch o fod yn wlad agored a chroesawgar, a byddwn yn cefnogi’r ymdrechion ar draws ein gwasanaethau cyhoeddus i sicrhau ein bod yn cyflawni ein dyletswyddau hawliau dynol fel cenedl, ac y gall pobl sy’n dod o hyd i loches yma wneud cyfraniad cadarnhaol i Gymru yn awr ac yn y dyfodol.’ 

Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru

Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru

Heléna Herklots, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Gwenith Price, Comisiynydd y Gymraeg Gweithredol

Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle