Ymgynghoriad i ddechrau ar Lesiant yng Nghastell-nedd Port Talbot

0
723

Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (PSB) Castell-nedd Port Talbot wedi cyhoeddi dyddiad dechrau ymgynghoriad ar ei Asesiad Llesiant Drafft yn y fwrdeistref sirol. Bydd yr ymgynghoriad yn agor ddydd Iau 7 Ebrill, a gall unrhyw un sydd eisiau lleisio barn gofrestru i dderbyn dolen i’r holiadur cyn gynted ag y bydd ar gael gan ddefnyddio ffurflen ar lein ar www.npt.gov.uk/ffurflenPSB.

Mae’r PSB yn bartneriaeth o sefydliadau lleol cyhoeddus a gwirfoddol o bob cwr o’r ardal sy’n gweithio gyda’i gilydd i wella llesiant preswylwyr, ac mae’r asesiad lesiant yn weithgaredd allweddol er mwyn adnabod blaenoriaethau ar gyfer y bwrdd.

Yn ôl Cadeirydd y PSB, y Cynghorydd Ted Latham:

Pwrpas y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yw gwella llesiant yng Nghastell-nedd Port Talbot drwy gryfhau gweithio ar y cyd ar draws gwasanaethau cyhoeddus yn y fwrdeistref sirol.

Mae’r asesiad llesiant yn hanfodol er mwyn helpu i addysgu blaenoriaethau’r bwrdd i’r dyfodol wrth iddo ddal cryfderau ac asedau pobl a chymunedau a cheisio disgrifio’r heriau a’r cyfleoedd a wynebir gan Gastell-nedd Port Talbot nawr ac yn y dyfodol. Mae’n bwysig dros ben ein bod ni’n cael y ddogfen hon yn iawn, ac mae angen mewnbwn gan bobl a sefydliadau ar draws y fwrdeistref sirol i’n helpu ni i wneud hyn, felly bydden ni’n croesawu cymaint fyth o adborth ar y drafft hwn â phosib.”

Dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, rhaid i bob Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (PSB) yng Nghymru gynhyrchu a chyhoeddi asesiad llesiant sy’n amlinellu sut mae llesiant yn edrych ar draws y rhanbarth a sut hoffai preswylwyr a



chymunedau i lesiant edrych yn y dyfodol.

Mae asesiad Drafft Castell-nedd Port Talbot yn ystyried llesiant yng nghyd-destun pedair thema – cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol. Cafodd ei addysgu gan ymgysylltiad â phreswylwyr a rhanddeiliad, ynghyd â gwybodaeth arall fel data, tystiolaeth ac ymchwil i gael dealltwriaeth o’r sefyllfa bresennol yn ogystal â sut i gynllunio at y dyfodol.

Aeth y Cynghorydd Latham ymlaen i ddweud:

Bydd yr adborth a ddarperir yn ein helpu i gwblhau’r Asesiad Llesiant, a gyhoeddir ym mis Mehefin 2022. Ar ôl i hyn gael ei wneud, bydd y PSB yn diweddaru’i Gynllun Llesiant sy’n amlinellu ein blaenoriaethau, sut fyddwn ni’n cyflawni’r blaenoriaethau hyn a sut y gall pobl a sefydliadau lleol gymryd rhan.”

Partneriaid statudol y PSB yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru, a cheir cynrychiolaeth hefyd gan sawl sefydliad gwasanaeth cyhoeddus a phartneriaid eraill, Gellir cael mwy o wybodaeth am waith y PSB yma: www.nptpsb.org.uk neu drwy gysylltu â psb@npt.gov.uk.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle