- Cafodd cannoedd o ddisgyblion ar draws Cymru weithdai yn eu hysgolion yr wythnos ddiwethaf, gan gynnig golwg iddynt ar y swyddi mae gweithwyr Dŵr Cymru’n eu gwneud.
- Digwyddiadau i ddathlu Wythnos Gwyddoniaeth Prydain – sef dathliad deg diwrnod o wyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg – oedd y rhain.
I ddathlu Wythnos Gwyddoniaeth Prydain 2022, mae tîm addysg Dŵr Cymru – y cwmni cyfleustod cyntaf yng Nghymru a Lloegr a’r unig un hyd heddiw – wedi bod ar daith i ysbrydoli cannoedd o ddisgyblion ar draws ardal weithredol y cwmni. Am fod y pynciau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) mor bwysig i’r diwydiant, mae’r cwmni’n gosod ysbrydoli’r holl ddisgyblion i fwynhau a chysylltu â’r maes yma wrth galon ei strategaeth addysg.
Aeth athrawon Dŵr Cymru, sy’n cael eu secondio i’r busnes yn flynyddol, i ymweld â 12 o ysgolion yn ystod yr wythnos – gan weithio gyda dros 1,200 o ddisgyblion ar bynciau STEM. Roedd y sesiynau’n cyd-fynd â phedwar pwrpas sydd wrth galon y Cwricwlwm Cenedlaethol, gan ganolbwyntio’n benodol ar annog pobl ifanc i fod yn fentrus ac yn uchelgeisiol. Trwy gyfres o gyflwyniadau a gweithdai difyr, rhyngddynt cafodd disgyblion dros 38 awr o addysg gan y cwmni, a bu’n gyfle gwerthfawr i’r disgyblion ddysgu mewn cyd-destun ymarferol.
Bu’r disgyblion yn gweithio mewn grwpiau gan ddefnyddio’u sgiliau llythrennedd a rhifedd i ymateb i’r her o gynllunio, adeiladu a phrofi rhwydwaith graddfa fechan o bibellau cyflenwi dŵr gan ddefnyddio set bwrpasol o offer.
Mae gan Ddŵr Cymru enw da hirsefydlog am ei ddarpariaeth addysg o safon uchel – ar ôl gweithio gyda bron i 600,000 o ddisgyblion ers sefydlu ei strategaeth addysg. Mae’r ymweliadau a gyflawnwyd yn ystod wythnos Gwyddoniaeth a Pheirianneg ymhlith y nifer o weithgareddau y mae’r cwmni’n eu cyflawni’n rheolaidd trwy ei ymrwymiad i addysgu, hysbysu ac ysbrydoli cenedlaethau iau am werth dŵr. Mae dull gweithredu’r cwmni wrth secondio athrawon i gyflwyno ei raglen addysg yn unigryw yn y diwydiant, ac mae’n ffordd arall y gall y cwmni ychwanegu gwerth at ysgolion, sydd wrth galon pob cymuned.
Dywedodd Pennaeth Cysylltiadau Cymunedol Dŵr Cymru, Claire Roberts: “Mae ymateb yr ysgolion a’r disgyblion i’r sesiynau hyn wedi bod yn gadarnhaol dros ben. Fel cwmni, mae cyfrifoldeb arnom i gynorthwyo ysgolion i ddarparu addysg. Yn ogystal â helpu cwsmeriaid y dyfodol i ddeall sut y gallant helpu i chwarae eu rhan wrth gadw ein gwasanaethau hanfodol i fynd, mae hi’n cynnig golwg gwerthfawr iddynt ar yr amrywiaeth o ddewisiadau gyrfaol sydd ar gael o fewn y diwydiant.”
Dywedodd un o athrawon Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Magwyr ger Cil-y-coed: “Un o’r gweithdai gorau i mi ei weld mewn dros 20 mlynedd o addysgu!”, a dywedodd athro arall o Ysgol Gynradd Plasmarl yn Abertawe: “Gweithdy rhagorol. Roedd y tôn yn berffaith ac roedd y plant wrth eu boddau!”
I gael rhagor o wybodaeth am raglen addysg Dŵr Cymru, ewch i www.dwrcymru.com/addysg
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle