Gwobrau Ymateb Covid y Maer – yr enillwyr

0
674
Covid Response Awards FAN

Digwyddodd Gwobrau Ymateb i Covid Maer Castell-nedd Port Talbot ddoe (dydd Iau Mawrth 24) yn harddwch bendigedig Orendy Parc Gwledig Margam.

Cynlluniwyd y gwobrau i gydnabod a gwobrwyo cyfraniad eithriadol unigolion, grwpiau a sefydliadau yn ein cymuned yn ystod pandemig Covid-19.

Prif noddwr y gwobrau oedd John Pye Auctions. Dyma’r enillwyr:

Gwobr Iechyd a Llesiant – Run4All Castell-nedd am drefnu a chynnal clwb i helpu llesiant corfforol a meddyliol preswylwyr drwy gydol COVID-19. Cyflwynwyd gan Louise Fleet, Arglwydd Raglaw Gorllewin Morgannwg

Gwobr Cefnogi Addysg – Gemma Ness a Vicky Hibben am gynnal yr ‘Hwb Dysgu’ i blant bregus a phlant gweithwyr allweddol drwy gydol y cyfnod clo.

Gwobr Busnes yn y Gymuned Cigydd Teuluol Bleddyn Howells am barhau i gefnogi banciau bwyd lleol, cartrefi nyrsio a grwpiau chwaraeon yn ystod y pandemig. Cyflwynwyd gan Faeres Castell-nedd Port Talbot, Mrs Lesley Warman

Gwobr Gwirfoddolwr Ifanc – Dewi Rhys Morgan am gasglu a chyflenwi presgripsiwns i bobl oedd yn cysgodi ac yn methu â gadael eu cartref. (Casglwyd gan Rhiannon Powell ar ran Dewi). Cyflwynwyd gan Bethan Nicholas-Thomas, Dirprwy Faer Ieuenctid Castell-nedd Port Talbot

Gwobr Cymydog Da – Jo Barness am gefnogi pobl i gael cyflenwadau siopa hanfodol yn ystod y pandemig. Cyflwynwyd gan John Pye Auctions

Gwobr Cymydog Da – Cheryl Rees am helpu preswylwyr oedrannus yn ystod y cyfnod clo a threfnu partïon stryd niferus i gynnal hwyliau pobl.Cyflwynwyd gan John Pye Auctions.

Gwobr Hyrwyddwr Cymunedol Unigol – Yvonne Davies am redeg banc bwyd dros ddeng mlynedd a dosbarthu parseli bwyd i bobl mewn angen yn ystod y pandemig. (Casglwyd gan Vicky Rawlinson ar ran Yvonne). Cyflwynwyd gan Leanne Jones, Dirprwy Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot

Gwobr Hyrwyddwr Cymunedol Grŵp – Canolfan Maerdy am chwarae rôl allweddol

yng Nghynllun Diogel ac Iach CPT drwy helpu gyda gofal plant i weithwyr allweddol a phlant bregus, a darparu bocsys bwyd i rai mewn angen. Cyflwynwyd gan Karen Jones, Prif Weithredwr Cyngor Castell-nedd Port Talbot

Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig Cymdeithas Gymunedol FAN am sefydlu tîm o hyrwyddwyr stryd ac i helpu pobl gyda siopa, casglu moddion a darparu cyswllt fel rhwyd ddiogelwch i bobl. Cyflwynwyd gan Faer Castell-nedd Port Talbot, John Warman.

Yn y seremoni wobrwyo, a gyflwynwyd gan Sean Holley, cafodd y Maer a’r Faeres, y Cynghorydd John Warman a Mrs Lesley Warman, gwmni gwesteion arbennig gan gynnwys Arglwydd Raglaw Ei Mawrhydi yng Ngorllewin Morgannwg, Mrs Louise Fleet, Uchel Siryf Gorllewin Morgannwg, Joanna Jenkins, Dirprwy Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot y Cynghorydd Leanne Jones, ein Maer Ieuenctid Bethan Nicolas-Thomas, Stephen Kinnock AS, Aelod y Senedd dros Dde Orllewin Cymru Sioned Williams a Jonathan Beasley ar ran noddwyr y digwyddiad John Pye Auctions.

Wrth i’r seremoni wobrwyo ddechrau, meddai’r Maer y Cynghorydd Warman: “Sefydlwyd y gwobrau hyn i roi cyfle i breswylwyr fan hyn yng Nghastell-nedd Port Talbot gyfle i enwebu pobl neu grwpiau wnaeth wir wneud gwahaniaeth yn ein cymunedau yn ystod yr adeg fwyaf heriol mae neb ohonon ni erioed wedi byw ynddo.

“Rhaid i mi ddweud, bu’r ymateb yn anhygoel, a chawson ni ein llorio gan gymaint o enwebiadau ddaeth i law. Fe gafodd y panel beirniadu, yr oeddwn i’n rhan ohono, yr amser caletaf wrth geisio penderfynu pwy i’w gwahodd yma heddiw. Roedd wir yn brofiad gwylaidd i gael darllen y cynigion.

“Dwi’n siŵr fod y bobl a enwebwyd ar gyfer y gwobrau hyn yn bobl fyddai fel arfer yn gwingo oddi wrth y sylw o gael eu cydnabod am gydnabyddiaeth arbennig. Wedi dweud hynny, nod y gwobrau hyn yw diolch, cydnabod a gwobrwyo’u gwaith caled a’u hymrwymiad dros y ddwy flynedd ddiwethaf… p’un ai ydyn nhw’n hoffi hynny ai peidio!”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle