Ystafell ddosbarth a lleoliad gofal plant newydd wedi’u hagor yn swyddogol yn Ysgol Gynradd Gymraeg Cwmllynfell

0
887
Cwmlynfell

Agorwyd ystafell ddosbarth a lleoliad gofal plant newydd mewn ysgol gynradd Gymraeg yng Nghastell-nedd Port Talbot gan Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg.

Mae’r disgyblion yn yr ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg i blaen 3-11 oed, Ysgol Gynradd Gymraeg (YGG) Cwmllynfell, yn mwynhau’r lle ychwanegol a’r cyfleusterau mwy modern ar ôl i brosiect adnewyddu gwerth £640,000 gael ei gwblhau.

Roedd gan y prosiect nod arall hefyd o atal disgyblion rhag mynd i ysgolion mewn awdurdodau cyfagos, gan gryfhau’r datblygiad Cymraeg yn yr ardal ac effeithio’n gadarnhaol ar gynnig Band B y Cyngor yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur (campws y gogledd) drwy gynyddu’r niferoedd o blant o’r ardal sy’n dewis cael addysg uwchradd drwy gyfrwng y Gymraeg.

Cwmlynfel

Cyn y prosiect adnewyddu roedd YGG Cwmllynfell ar fin cyrraedd y terfyn uchaf o ran faint o blant oedd yn gallu mynychu – 92 lle i ddisgyblion – heb ddim modd cynyddu faint o ddisgyblion allai gael eu derbyn heb fuddsoddi mewn creu mwy o le.

Roedd y Cyfnod Sylfaen yn gweithredu allan o ddosbarthiadau oedd yn cyfyngu ar brofiad y disgyblion, a doedd dim lle sbâr na hyblygrwydd yn ôl troed yr adeilad fel yr oedd i ddarparu gofal plant (y cynnig agosaf oedd darpariaeth ddwyieithog dros bum milltir i ffwrdd).

Nawr, ar ôl gorffen y gwaith adeiladu, nid yn unig mae yma ddarpariaeth ar gyfer dosbarth ychwanegol, ond hefyd leoliad gofal plant cyfrwng Cymraeg a fydd yn cynyddu niferoedd yr ysgol gan 30 lle i ddisgyblion.

Yn ôl y Cynghorydd Peter Rees, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Addysg, Sgiliau a Diwylliant: “Gwnaed y prosiect adnewyddu hwn yn bosib ar ôl i Gyngor Castell-nedd Port Talbot gael llwyddiant wrth gael cyllid grant oedd yn dod i gyfanswm o £3.4m i wella cyfleusterau ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg dros dair blynedd.

“Mae hwn wedi cael ei wario ar waith yn YGG Cwmllynfell ac ar brosiectau gwella ac adnewyddu yn YGG Tyle’r Ynn (Llansawel) ac YGG Pontardawe.

Cwmlynfell

“Yn ogystal, dros y pedair blynedd ddiwethaf, cafwyd cyllid cyfalaf sylweddol ar gyfer prosiectau adnewyddu o bwys mewn wyth ysgol cyfrwng Cymraeg sy’n bodoli eisoes. Mae’r buddsoddiad, sy’n sicrhau dyfodol yr ysgolion hyn, yn amrywio o gynlluniau ar waliau ffiniol ac adnewyddu cyfleusterau tŷ bach a newid, i adeiladu bloc cegin newydd, gosod boeler newydd a rhoi to newydd.

“Darparwyd estyniad pedwar bloc a adeiladwyd o’r newydd yn YGG Rhosafan a darpariaeth Cyfnod Sylfaen ar gyfer 60 lle newydd yn YGG Castell-nedd fel rhan o’r grant Lleihau Maint Dosbarthiadau Babanod hefyd.”

Yng Nghastell-nedd Port Talbot, mae nifer a chanran y disgyblion oedran derbyn mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg wedi cynyddu am y drydedd flwyddyn o’r bron gyda’r ganran yn uwch nawr nag y bu ers 2013.

Cyfanswm y gwariant hyd yn hyn (Bandiau A a B) dan raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif ar gyfer moderneiddio ystâd ysgolion Castell-nedd Port Talbot yw £165m – buddsoddiad enfawr yng nghenedlaethau nesaf Castell-nedd Port Talbot, a’r mwyaf gan unrhyw gyngor yng Nghymru y tu allan i Gaerdydd.

Mae rhaglen Ysgolion yr 21ai Ganrif yn gydweithrediad rhwng Llywodraeth Cymru a chynghorau lleol yng Nghymru. Mae’n rhaglen fuddsoddi cyfalaf strategol hirdymor sydd â’r nod o greu cenhedlaeth o Ysgolion 21ain Ganrif ledled Cymru.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle