Y Brifysgol yn ymuno mewn dathliad arbennig o gefnogaeth Abertawe i fudwyr

0
196

Mae Prifysgol Abertawe’n gwneud cyfraniad allweddol at helpu i lywio gwybodaeth pobl ifanc am fudo mewn arddangosfa newydd unigryw yn y ddinas. 

Yn ogystal â dathlu’r bobl a’r sefydliadau sydd wedi helpu i wneud Abertawe’n Ddinas Noddfa ers mwy na degawd, mae Cartref oddi Cartref yn Hyb Amlddiwylliannol Theatr y Grand yn Abertawe yn gobeithio llywio barn y cyhoedd am fudo. 

Bydd ymwelwyr yn gallu cael rhagor o wybodaeth am y prosesau sy’n gysylltiedig â mudo, yn ogystal â rhannu straeon emosiynol mudwyr ac arddangos gwaith Dinas Noddfa Abertawe. 

Mae’r Brifysgol yn un o 25 o bartneriaid rhyngwladol ym mhrosiect PERCEPTIONS, a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd (UE). Mae’r prosiect yn archwilio sut mae pobl sydd wedi ymfudo i Ewrop neu’r UE neu sy’n bwriadu gwneud hynny yn canfod y lleoedd hyn. Bydd y prosiect yn defnyddio’r arddangosfa fel cyfle i amlygu ei waith yn ogystal â chynnal gweithdai creadigol arbennig i blant rhwng 7 ac 11 oed. 

Bydd y gweithdai hyn yn galluogi disgyblion i ryngweithio â themâu mudo sy’n deillio o brosiect PERCEPTIONS – ffydd, gobaith, colled, ansicrwydd a dryswch – ac i greu gwaith celf sy’n seiliedig ar y themâu hynny. Y gobaith yw y gellir rhannu’r rhain â phartneriaid yn yr UE wedyn. 

Mae cyfraniad y Brifysgol at yr arddangosfa wedi cael ei arwain gan yr Athro Sergei Shubin, sef pennaeth tĂŽm PERCEPTIONS Abertawe a chyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil ar Bolisi Mewnfudo, a’i gydweithiwr Harrison Rees. 

Mae’r digwyddiad yn rhan o gais Prifysgol Abertawe i fod yn Brifysgol Noddfa, a bydd llawer o’r ysgolion a fydd yn cymryd rhan hefyd yn ceisio bod yn Ysgolion Noddfa. 

Meddai’r Athro Martin Stringer, y Dirprwy Is-Ganghellor, sy’n arwain cais Abertawe i fod yn Brifddinas Noddfa: “Mae ymrwymiad Prifysgol Abertawe i feithrin diwylliant noddfa a chreu lle diogel a chroesawgar i bawb yn galw ar ei gwerthoedd sefydliadol a’i chenhadaeth ddinesig. 

“Rydyn ni’n ymroddedig i weithio gyda’n cymuned eang, gan gynnwys ceiswyr noddfa, er mwyn cefnogi amrywiaeth, cynwysoldeb a chydraddoldeb er budd pobl eraill.” 

Trefnwyd yr arddangosfa’n wreiddiol i ddathlu 10 mlynedd ers i Abertawe ddod yn Ddinas Noddfa, ond roedd yn rhaid iddi gael ei gohirio oherwydd Covid-19, ac mae Alan Thomas, cyd-gadeirydd Dinas Noddfa Abertawe, yn falch y gallai gael ei chynnal o’r diwedd. 

Meddai: “Mae’n deilwng bod yr arddangosfa’n cyd-fynd â’r gefnogaeth enfawr sy’n cael ei dangos tuag at ffoaduriaid o WcrĂĄin. Bu cynnydd mawr hefyd yn nifer y bobl sy’n ceisio lloches yma o fannau eraill yn y byd sy’n wynebu helbulon. 

“Rydyn ni wedi gwybod erioed fod pobl yn gyffredinol yn croesawu pawb sydd wedi gorfod ffoi o’u cartrefi oherwydd rhyfel ac erledigaeth, yn enwedig ar Ă´l cwrdd â nhw neu glywed ganddyn nhw’n uniongyrchol.  

“Dyma’r rheswm pam mae elfen sylweddol o’n harddangosfa’n cynnwys straeon unigolion y gorfodwyd iddyn nhw adael eu cartref ac sydd bellach yn cyfrannu at Abertawe. Mae rhan arall yn ymwneud â’r ffyrdd y mae Abertawe wedi cynnig noddfa a chroeso Cymreig cynnes i bobl.” 

Dywedodd y bydd yr arddangosfa bellach yn cael ei chynnal mewn lleoliadau eraill dros y flwyddyn nesaf, gan ysbrydoli cynifer o bobl â phosib i roi eu cydymdeimlad tuag at y rhai sy’n ffoi rhag trawma ar waith yn ymarferol. 

Cynhelir yr arddangosfa tan 7 Ebrill ac mae ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener o 10am i 7pm, ac ar ddydd Sadwrn o 11am i 3pm. Mae ar gau ar ddydd Sul.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle