Gall ymddygiad amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed o hyd

0
270

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn atgoffa pobl bod mesurau amddiffynnol i leihau’r risg o drosglwyddo COVID-19 yn dal i fod ar waith mewn lleoliadau iechyd a gofal i amddiffyn pobl agored i niwed a staff. 

Bu newidiadau yr wythnos hon i’r gofynion cyfreithiol i’r cyhoedd hunan-ynysu a gwisgo gorchudd wyneb mewn rhai lleoliadau, yn ogystal â phrofi am COVID-19. 

Fodd bynnag, mae’r Bwrdd Iechyd yn pwysleisio pwysigrwydd parhaus yr ymddygiadau yr ydym yn gwybod eu bod yn lleihau’r achosion o drosglwyddo COVID-19 a chlefydau heintus eraill, a’r gofynion gwahanol sydd ar waith mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol. 

Eglurodd Cyfarwyddwr Gweithredol TherapĂŻau a Gwyddor Iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Alison Shakeshaft: “Ynysu os oes gennym ni symptomau COVID-19, neu glefydau heintus eraill, yw un o’r pethau pwysicaf y gallwn ei wneud i atal lledaeniad a thorri’r gadwyn drosglwyddo. Rydym yn annog unrhyw un yn ein hardal sydd â’r symptomau clasurol, neu sy’n amau bod ganddynt COVID-19 i ynysu a gwneud prawf llif ochrol. Os yw’n bositif, rydym yn annog pobl i barhau â’r un canllawiau ynysu ag sydd wedi bod ar waith – bydd hyn yn eich helpu i orffwys a gwella, ac yn amddiffyn eraill rhag y risg o drosglwyddo. Bydd hyn hefyd yn helpu’r gwasanaeth iechyd.”  

Os oes gennych symptomau COVID-19 gallwch barhau i archebu prawf llif ochrol yng Nghymru am ddim, tan 24 Mehefin, drwy fynd i www.gov.uk (agor mewn dolen newydd) a chwilio ‘archebu pecyn llif ochrol cyflym’. Os nad ydych chi, neu rywun yr ydych yn gofalu amdano yn medru mynd ar-lein, gallwch ffonio 119 rhwng 7am ac 11pm (gall pobl ag anawsterau clyw neu leferydd ffonio 18001 119).  

Cyngor iechyd y cyhoedd yw parhau i ynysu os byddwch yn cael canlyniad cadarnhaol, naill ai am 10 diwrnod, neu ar Ă´l dau ganlyniad prawf llif ochrol negatif yn olynol o ddiwrnodau 5 a 6. 

Bydd staff iechyd a gofal yn dal i gael eu hannog i ddefnyddio profion llif ochrol yn rheolaidd a byddant yn gallu cael mynediad at brofion PCR yn uniongyrchol gan y bwrdd iechyd i gadarnhau COVID-19 os ydynt yn symptomatig. Mae hyn yn fesur i’w hamddiffyn nhw a’r bobl fregus yn eu gofal.  

Mae’r safleoedd profi oedd ar agor i’r cyhoedd, bellach wedi cau yn dilyn newidiadau gan y Llywodraeth. 

Bydd hefyd yn ofynnol i rai cleifion gael prawf cyn triniaethau penodol, neu tra yn yr ysbyty. Byddwn yn cyfathrebu’n uniongyrchol â nhw ynghylch sut y gallant gael mynediad at y profion hyn. 

Mae yna hefyd ofynion o hyd mewn lleoliadau iechyd a gofal ar gyfer gwisgo mwgwd llawfeddygol neu orchudd wyneb a chadw pellter corfforol.  

Ar hyn o bryd mae ymweliadau ag ysbytai yn gyfyngedig a gyda chytundeb ymlaen llaw yn ysbytai BIP Hywel Dda. Mae hyn er mwyn amddiffyn cleifion a defnyddwyr gwasanaeth. 

Dywedodd Mandy Rayani, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf: “Rydym yn diolch i bobl a’u teuluoedd a’u gofalwyr am eu dealltwriaeth a’u hymlyniad at reolau llym ynghylch ymweld ag ysbytai y bu’n rhaid i ni eu gosod yn ystod y pandemig. Rydym yn parhau i fonitro’r sefylla ond ar hyn o bryd mae achosion yn ein cymunedau a’n hysbytai yn sylweddol ac nid ydym mewn sefyllfa i ymlacio’r rheolau ar ymweld ar hyn o bryd.” 

Os dymunwch ymweld ag anwylyd yn yr ysbyty, a bod pwrpas clir, rhaid i chi drefnu hyn ymlaen llaw gyda phrif nyrs y ward. Mae rhagor o fanylion ar gael drwy fynd i biphdd.gig.cymru (agor mewn dolen newydd) a chwilio ‘trefniadau ymweld’.  


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle